Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae myfyrwyr prifysgol wedi bod yn chware rôl allweddol yn rheoli gofyniad a gwella amseroedd ateb galwadau yn yr ystafell reoli.
Daeth chwech myfyriwr sy’n astudio plismona ym Mhrifysgol Wrecsam i weithio yng Nghanolfan Rheoli’r Heddlu dros yr haf diwethaf, i gynorthwyo efo gweithio ar y switsfwrdd ac i helpu efo’r gofynion uchel ar adegau brig.
Mae’r switsfwrdd yn ran hanfodol o dîm cyflawn yr ystafell reoli, drwy asesu’r galwadau sy’n dod i fewn i’r heddlu, ac i roi cyngor priodol pan nad oes argyfwng, sy’n gadael i’r gweithredwyr i flaenoriaethu’r rheiny sydd angen cymorth fwyaf.
Dywedodd Rheolwr yr Ystafell Reoli, Peris Hatton: “Mae’r gwaith mae’r switsfwrdd yn ei wneud yn un o'r rolau mwyaf hanfodol sydd gennym yn yr heddlu, oherwydd ei fod yn rheoli llif y galwadau i’r ystafell reoli, ac yn hidlo gofynion di-angen.
“Ar adegau brig, ac yn enwedig yn ystod yr haf pan welwn lawer o dwristiaid yn cyrraedd, mae’r gofynion ar yr ystafell reoli yn cynyddu’n sylweddol.
“Yn ystod yr haf diwethaf, ‘roedd gennym gefnogaeth ychwanegol efo’r myfyrwyr, a gwelsom leihad sylweddol yn y nifer o alwyr yn gadael yr alwad cyn i ni fedru ateb – sy’n digwydd weithiau, er enghraifft, oherwydd amseroedd disgwyl, neu oherwydd efallai eu bod yn penderfynu riportio ar-lein i arbed amser.
“Fe wnaeth eu cyfraniad hefyd wella yn fawr y gwasanaeth cwsmeriaid ‘roeddem yn medru ei ddarparu, oherwydd fod y gofynion yn haws i’w rheoli – ac, o ganlyniad, rhoddodd y profiad well dealltwriaeth i’r myfyrwyr o'r broses plismona yn gyfan gwbl, sy’n eu helpu yn eu rolau fel Cwnstabliaid Gwirfoddol.”
Dywedodd Matthew Smith, 26, myfyriwr a fu’n gweithio ar y switsfwrdd: “Un o’r pethau pennaf ‘dwi wedi ei ganfod drwy weithio yn yr ystafell reoli ydy sut mae’r profiad wedi fy helpu i wneud cynnydd yn y rôl Cwnstabl Gwirfoddol.
“Mae’r Radd Plismona Proffesiynol wedi fy helpu i fagu hyder a gwybodaeth, tra’n cael dealltwriaeth glir o’r broses plismona a sut mae’r ystafell reoli yn chwarae rôl allweddol ym mhlismona.”
Bydd Matthew ymysg tîm o chwech mae’r heddlu yn gobeithio eu cael i weithio yn yr ystafell reoli eto’r haf yma.
Ychwanegodd Peris: “Mae’r myfyrwyr yn ased i ni yn yr ystafell reoli, ac ‘rydym yn edrych ymlaen i’r tîm llawn ohonynt ddychwelyd atom yn y misoedd sydd i ddod.”