Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion y Tîm Troseddau Cefn Gwlad wedi lansio ymgyrch i dargedu gyrwyr modur oddi ar y ffordd sy’n gyrru’n anghyfreithlon ac yn wrthgymdeithasol, yn ardaloedd cefn gwlad Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae’n dilyn sawl cwyn gan drigolion yr ardal leol, am y beiciau yn achosi sŵn, difrod a tharfu mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a Lleoliadau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae hefyd hysbysiadau bod cerbydau heb yswiriant neu dreth, ac sydd yn anaddas i’r ffordd yn cael eu defnyddio ar lwybrau penodol.
Cychwynnodd Ymgyrch Dales dros y penwythnos, ac fe welwyd patrolau amlwg ar hyd llwybrau gwyrdd lle ‘roedd yn wybyddus bod gyrwyr modur oddi ar y ffordd yn eu defnyddio, yn nyffrynnoedd Sir Ddinbych ac ardaloedd cefn gwlad Wrecsam – gan gynnwys y “Wayfarer”, ger Llanarmon DC.
Gweithiodd y swyddogion Troseddau Cefn Gwlad ynghyd â’r timau plismona cymdogol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ceidwaid Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r awdurdodau lleol – gan gynnwys Cynghorydd Cymunedol Brynffordd, Simon Jones – i addysgu ac i sgwrsio efo ymwelwyr am effeithiau gyrru oddi ar y ffordd gwrthgymdeithasol.
Defnyddiwyd dronau mewn llefydd penodol , gan ddefnyddio data arbenigol i dargedu beiciau a’u defnyddir yn anghyfreithlon, tra ‘roedd swyddogion hefyd yn edrych am droseddwyr ac i weithredu yn eu herbyn.
Dywedodd Cwnstabl Amy Bennett, o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad, a wnaeth lansio’r ymgyrch: “Cafodd nifer o feiciau eu stopio dros amryw o ardaloedd, er mwyn siarad efo nhw ac i roi cyngor. Fe siaradom efo defnyddwyr cyfreithlon hefyd, a oedd yn hapus i sgwrsio ac yn gefnogol o’r ymgyrch.
“Yn hanesyddol, mae’r pwnc o yrru gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd yma wedi creu tensiwn ymysg y trigolion a’r gymuned ffermio,” meddai.
“Mae’n fater mae’r tîm Troseddau Cefn Gwlad a’u partneriaid yn ei gymryd o ddifri, gan ein bod yn deall y rhwystredigaeth maent yn achosi yn ein cymunedau.
“Mae’r difrod mae nhw’n achosi yn effeithio’n niweidiol ar ein tirweddau, ac hefyd yn aflonyddu ar ein bywyd natur. Mae hefyd yn achosi canlyniadau pellgyrhaeddol i'r amgylchedd drwy darfu ar gynefinoedd sensitif ac achosi difrod na ellir ei wrthdroi i Leoliadau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
“’Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o ymwelwyr i’r ardal yn gyrru cerbydau addas a chyfreithlon, ond mae’n dod yn fwy amlwg bod cerbydau heb yswiriant neu dreth ac yn anaddas i’r ffordd yn cael eu defnyddio i deithio’r llwybrau yma.
“’Rydym wedi’n hysbysu eu bod wedi cyrraedd yma ar lwythwyr isel (“low loaders”), neu, yn achos beiciau modur neu feiciau pedair olwyn, yn teithio yma mewn faniau, cyn cael eu gyrru’n anghyfreithlon drwy’r pentrefi a’r llwybrau gwyrdd.
“Ni fydd yr ymddygiad yma’n cael ei oddef, ac ‘rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd i barhau i’n cynorthwyo i daclo’r mater drwy roi gwybodaeth am feiciau oddi ar y ffordd yn eu hardaloedd yn uniongyrchol ar 101, neu drwy’r wefan.”
Bydd patrolau pellach yn cymryd lle dros y misoedd nesaf fel rhan o’r ymgyrch.