Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n gweld cynnydd yn nifer y beiciau modur sy'n cael eu riportio wedi'u dwyn yn Wrecsam.
Yn ystod y mis diwethaf, mae 11 achos o ddwyn beiciau wedi cael eu riportio i ni o bob rhan o'r sir.
Mae rhai'n cael eu tanio heb oriad, tra mae rhai eraill yn cael eu dwyn o erddi neu garejis.
Ddoe (dydd Mercher, 8 Mai) fe gawson ni adroddiad fod Piaggio Xevo gwyn wedi cael ei ddwyn o gyfeiriad yn Rhos, oedd wedi cael ei dargedu gan ladron am yr eildro o fewn wythnos. Cafodd y beic cyntaf, Lexmoto Assault glas ei ddwyn ddydd Iau, 2 Mai, cyn iddo gael ei gasglu gan swyddogion yn Rhiwabon rai dyddiau'n ddiweddarach.
Yn oriau mân bore dydd Mawrth, gwelwyd dau ddyn ar feic modur heb helmedau hefyd yn edrych i mewn i gar oedd wedi ei barcio ar dramwyfa tŷ yn ardal Ffordd Cefn, cyn iddyn nhw gael eu tarfu a dianc.
Fis diwethaf, cafodd Lexmoto arall ei ddwyn o du allan i dŷ yng Ngwersyllt, hefo adroddiadau bod y beic i'w weld yn cael ei reidio yn y ddinas.
Dywedodd Rhingyll Emma Birrell: "Dim ond eiliadau mae lladron eu hangen er mwyn dwyn beic - yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu gadael hefo diogelwch gwael.
"Buaswn annog pobl ystyried defnyddio llu o fesurau diogelwch i'w gwneud hi'n anoddach a llai deniadol i ladron.
“Os gwelwch chi unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Naill ai drwy ein ffonio ni ar 101, neu drwy ein sgwrs fyw ni ar y wefan yma – Sgwrs fyw | Heddlu Gogledd Cymru .”
Dyma rai awgrymiadau er mwyn lleihau'r siawns o ladrad
Defnyddiwch glo disg i'ch cynorthwyo i ddiogelu'r ddisg brêc blaen, neu glo gafael er mwyn diogelu'r rheolaethau brêc a sbardun. Gallwch hefyd ddefnyddio clo D ar yr olwyn flaen i'w rwystro rhag cael ei rowlio i ffwrdd. Defnyddiwch ddyfeisiau cloi, hyd yn oed pan fydd beic yn cael ei storio y tu mewn i garej.
Mae lladron yn aml yn dwyn beiciau drwy dorri'r clo llyw a'i rowlio i ffwrdd. Defnyddiwch glo cadwyn drwy'r olwyn gefn. Diogelwch eich beic, gyda'r clo wedi'i dynhau i wrthrych cadarn fel angor daear neu ddodrefn stryd. Bydd hyn yn atal lladron rhag torri clo sy'n llusgo ar y llawr gan ddefnyddio malwr ongl. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch y gadwyn drwy ffrâm ac olwyn gefn eich beic.
Mae lladron yn aml yn 'siopa' am fodelau beic penodol. Mae defnyddio gorchudd yn ei wneud yn llai deniadol iddynt yn syth. Mae gorchudd hefyd yn rhwystr sy'n gwastraffu amser i'r lleidr.