Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae patrolau amlwg ar gynnydd yn ardal y Fflint mewn ymdrech i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Daw hyn yn dilyn gofidion lleol yn ymwneud ag anhrefn yng nghanol y dref tua 7 o'r gloch ddoe (dydd Mawrth, 21 Mai) lle bu 20 o bobl ifanc yn ymladd.
Arweiniodd y digwyddiad yn Church St at yr Arolygydd Patrôl yn awdurdodi gorchymyn gwasgaru yng nghanol y dref.
Nid yw'r gorchymyn mewn lle bellach.
Daw hyn yn dilyn sawl adroddiad am grwpiau o bobl ifanc yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Dywedodd Arolygydd Gogledd Sir y Fflint, Wesley Williams: "Dw i'n deall bod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus hwn yn peri gofid ac ofn i bobl yn y gymuned.
“Bydd trigolion yn gweld cynnydd mewn patrolau heddlu yn y dref ac yn y cyffiniau dros yr wythnosau nesaf er mwyn sicrhau na fydd ymddygiad fel hyn yn parhau."
Mae gorchmynion gwasgaru yn rhoi'r grym i swyddogion a SCCH gyfeirio unrhyw un sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol i adael yr ardal a pheidio â dychwelyd am hyd at 48 awr o dan Adran 34 Deddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014.
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: "Rhoddwyd gorchymyn gwasgaru ddoe er mwyn sicrhau bod gan staff y pŵer i ddelio ag unrhyw broblemau pellach. Nid yw'n weithredol bellach ond gall gael ei weithredu eto os bydd mwy o anhrefn yn digwydd.
Bydd ein Tîm Plismona'r Gymdogaeth yn parhau i weithio gyda busnesau, partneriaid a chymunedau er mwyn sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel yn eu tref."
Daw'r patrolau ychwanegol yn y Fflint fel rhan o Ymgyrch Restore - cynllun wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws yr ardal.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn grant gwerth £1 miliwn tuag at ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol mewn ardaloedd sy'n achosi problemau.
Mae ein cymunedau'n chwarae rhan hanfodol yn ein cynorthwyo i atal a chanfod troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yw gwasanaeth negeseuon cymunedol a gyflwynir i chi gan Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am droseddau, digwyddiadau ymgysylltu, apeliadau, cyngor atal a gweithgarwch plismona cyffredinol yn eich ardal leol.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer rhybuddion cymunedol, ewch ar ein gwefan yma: Rhybuddion Cymunedol Gogledd Cymru | Heddlu Gogledd Cymru