Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 18 Mai 2024 cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Merched yn yr Heddlu Gwirfoddol yn Birmingham. Wedi'i chynnal gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, cafwyd cynrychiolaeth dda gan Swyddogion Heddlu Gwirfoddol benywaidd o heddluoedd ledled y DU.
Roedd y gynhadledd ddeuddydd yn cynnwys sgyrsiau ar bynciau fel Plismona hefo Cymorth Cyflogwyr, hanes merched yn yr Heddlu Gwirfoddol, arweinyddiaeth gynhwysol, rolau arbenigol a dyfodol yr Heddlu Gwirfoddol.
Cynrychiolwyd Heddlu Gogledd Cymru yn y gynhadledd gan y Rhingyll Gwirfoddol Katy Bell a'r Arolygydd Gwirfoddol Lou Roberts o ardal Sir y Fflint. Dywedodd y ddwy: "Fe wnaethon ni fwynhau'r gynhadledd hon yn fawr. Roedd yn wych gweld cymaint o swyddogion benywaidd o'r un anian yn dod at ei gilydd. Roedden nhw yno er mwyn trafod rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu ni o fewn yr Heddlu Gwirfoddol a dathlu'r campau a'r cynnydd y mae merched wedi'u gwneud mewn plismona dros y blynyddoedd."
Mae gan Swyddogion Gwirfoddol yr un grymoedd, lifrai ac offer heddlu â swyddogion heddlu arferol. Maen nhw'n rhoi o'u hamser rhydd yn wirfoddol, gan gydbwyso eu bywydau personol prysur, eu teuluoedd, eu gwaith bob dydd ac ymrwymiadau eraill o amgylch dyletswyddau heddlu. Ar hyn o bryd dim ond pedair Swyddog Gwirfoddol benywaidd sydd yn rheng Arolygydd neu'n uwch ar draws Cymru. Daw tair o'r rhain o Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnwys y swyddog gwirfoddol benywaidd sydd yn y rheng uchaf yng Nghymru, y Prif Arolygydd Gwirfoddol Mel Evans.
A oes gennych chi'r hyn sydd ei angen er mwyn dod yn Rhingyll, Arolygydd neu Brif Arolygydd Gwirfoddol? Cliciwch yma er mwyn gwybod mwy am y rôl a sut i wneud cais – Special constable | North Wales Police