Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio offer realiti rhithwir i helpu gwella eu dealltwriaeth o'r hyn mae'r rhai sy'n dioddef rheoli a gorfodaeth yn ei ddioddef.
Y nod yw i swyddogion adnabod yr arwyddion yn well ac ehangu eu gwybodaeth o droseddau domestig drwy bersbectif gwahanol er mwyn diogelu dioddefwyr ac erlid troseddwyr.
Hwn yw'r hyfforddiant realiti rhithwir cyntaf o'i fath i swyddogion yng Ngogledd Cymru.
Cafodd ei ddatblygu gan Mother Mountain Productions - sefydliad cymunedol sy'n rhoi llais i bobl fregus - ac sydd yn cael ei gyflwyno ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r sesiynau hyfforddi yn gweithio drwy roi pensetiau realiti rhithwir i swyddogion.
Maent y profi nifer o sefyllfaoedd yn seiliedig ar achosion go iawn sy'n cael eu chwarae gan actorion, gyda'r swyddog o dan hyfforddiant yn ei weld o safbwynt y dioddefwr.
Mae pob sesiwn yn dangos arwyddion mwy cynnil o reoli gorfodol, yn cynnwys gormodedd o sylw cariadus, dibwyllo a gwrthod cyfathrebu.
Mae myfyrwyr yn ymweld â sefyllfa rithwir ble mae drwgweithredwyr yn rheoli arian, ffonau symudol a meddyginiaethau, gan orfodi i ddioddefwyr wisgo dillad arbennig, a rheoli pwy maent yn gweld a beth maent yn gwneud o ddydd i ddydd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, sydd hefyd yn Arweinydd Trais yn erbyn Merched a Genethod dros Gymru gyfan: "Gall rheolaeth drwy orfodaeth fod yn beth cynnil, gan wneud hi'n anodd ei adnabod fel cam-drin.
"Mae'r rhai sy'n ei ddioddef yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu bychanu ac yn teimlo'n ynysig. Mae rheoli gorfodol yn gallu cynnwys cyfyngu mynediad person i arian, rheoli’r hyn maent yn cael gwisgo neu orfodi i’r dioddefwr dorri cysylltiad â'i ffrindiau a theulu.
“Mae'r ffordd ddyfeisgar hon o hyfforddi yn rhoi persbectif newydd i'n swyddogion ac yn rhoi dealltwriaeth o droseddau domestig, gan ein galluogi ni i gynnig lefel o wasanaeth i'r cyhoedd sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr.
"Rydym wedi ymroi i ganfod trais yn erbyn menywod ac yn buddsoddi yn ein swyddogion er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd angen arnynt i ddelio â'r digwyddiadau gyda hyder a dealltwriaeth."
Dywedodd yr Uwcharolygydd Claire McGrady sy'n arweinydd ar gyfer trais yn erbyn merched a genethod i Heddlu Gogledd Cymru: “Mae'r hyfforddiant rhithwir hwn yn gyffrous iawn gan ei fod yn caniatáu i'n swyddogion o dan hyfforddiant ddysgu mwy am reoli, ymddygiad gorfodol ac yn cymryd hwnnw yn ôl i'r gweithle a'i ddefnyddio pan fyddant yn wynebu achosion tebyg yn y byd go iawn.
"Yn ôl yr ystadegau mae degau o filoedd o achosion o gam-drin emosiynol fel hyn yng Nghymru a Lloegr felly rhaid i ni ddeall y troseddau hyn er mwyn eu hatal.
“Mae'r hyfforddiant hwn yn cyfrannu'n enfawr tuag at hynny."
Dywedodd Jude Traharne, Prif Weithredwr Mother Mountain Productions: “Pan fyddwn yn rhoi pobl yn sefyllfa pobl eraill, mae'n creu dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd i'r person hwnnw.
“Drwy roi swyddogion yn esgidiau'r dioddefwyr, byddant yn gallu gweld sut beth yw eu profiadau.
"Rydym yn gweithio gydag asiantaethau a dioddefwyr sydd wedi goroesi er mwyn sicrhau ein bod ni'n adrodd eu stori yn y modd mwyaf dilys, ac yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, er yn ddienw.
"Teimlwn hefyd ei fod yn bwysig iawn i uniondeb y cwmni i roi llais iddynt fel y gall eu profiadau gael eu rhannu oherwydd yn aml iawn maent yn teimlo nad ydy asiantaethau'r sector gyhoeddus, er eu bod yn llawn cydymdeimlad, ddim bob amser yn deall yr effaith y gall rheoli gorfodol gael ar rywun."
Eglurodd Jude bod realiti rhithwir yn cael effaith wahanol i ffilmio confensiynol gan ei fod yn gweithio ar system limbaidd yr ymennydd.
Ychwanegodd: "Mae popeth yn dod o'r galon ac rydym wedi darganfod yn sgil adborth ei fod yn cael effaith gwirioneddol ar y ffordd mae ymddygiad y rhai sy'n cymryd rhan yn newid, ac mae hyn yn gyffrous iawn.
Dywedodd Dr Tim Homes, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Bangor: “Mae'r dull addysgu trochol hwn yn dangos ein hymrwymiad i ymateb i'r angen i wella ymwybyddiaeth swyddogion newydd o reoli gorfodol a sut yn gall ymddangos mewn nifer o ffyrdd.
"Gyda'r hyfforddiant hwn, rydym wedi cael y cyfle i gyrraedd llawer o swyddogion newydd yn ogystal â myfyrwyr troseddeg a'r sector gwasanaethau cymdeithasol ehangach."
Os ydych chi neu unrhyw un dach chi'n nabod yn dioddef o reoli gorfodol cysylltwch â ni ar-lein neu drwy alw 101 a threfnu i siarad yn gyfrinachol gydag ymchwilwyr profiadol.