Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed wedi cael ei garcharu am droseddau cam-drin parhaus yn erbyn ei bartner.
Bu Jamie Warner o Stryd y Farchnad, Caergybi yn defnyddio ymddygiad rheolaethol a gorfodol ar ei bartner rhwng Ionawr 2021 ac Awst 2023, gan achosi iddi ofni y byddai'n cael niwed difrifol.
Drwy gydol eu perthynas roedd yn anfon negeseuon ati yn holi ble roedd hi ac yn gwneud iddi deimlo'n euog pan fyddai'n ymweld â'i theulu. Roedd yn defnyddio cam-drin geiriol ac yn ei bygwth a bob tro roedd hi'n ceisio dod â'r berthynas i ben roedd yn derbyn llu o negeseuon testun yn ei chyhuddo o fod efo dynion eraill.
Ymddangosodd yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Mawrth, 30 Ebrill , ble wnaeth bledio'n euog i ymddygiad rheolaethol a gorfodol. Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac 8 mis yn ogystal â derbyn gorchymyn atal 10 mlynedd yn ei atal rhag cysylltu â’r dioddefwr a mynd i bentref Talwrn ar Ynys Môn.
Dywedodd yr Arolygydd Richard Griffith: "Mae cam-drin domestig yn dod ym mhob lliw a llun ac mae'n gallu cael effaith ddofn a hirhoedlog ar unigolyn.
"Rydym yn gwybod nad ydy hi'n hawdd hysbysu am achosion o'r natur hon. Heb ei dewrder hi, ni fyddem wedi gallu sicrhau'r canlyniad cadarnhaol hwn.
"Rydym yn parhau i weithredu ar unrhyw adroddiad o ymddygiad rheolaethol a gorfodol a byddwn yn parhau i ddod â'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig o flaen eu gwell."
Ymgyrch Unite yw ein hymateb i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru