Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn parhau i ddinistrio fferm canabis mawr a ganfuwyd ddoe ar stryd yng ngorllewin y Rhyl.
Arestiwyd dyn arall yn y tŷ ble roedd planhigion yn cael eu tyfu ar sawl llawr.
Mae'r heddlu yn rhybuddio pobl leol am y peryg y mae tyfu canabis yn achosi i'r gymuned ehangach.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Cust: "Nid yw'r troseddwyr sy'n tyfu canabis yn ystyried gweddill y gymuned. Roedd y fferm hon yn agos at gartrefi.
“Mae'r peryg sy'n deillio o'r cyffur Dosbarth B hwn yn cynnwys caethwasiaeth fodern, troseddau yn gyffredinol a thân. Roedd offer arbenigol yn y tŷ, gyda'r trydan wedi ei ail-weirio gan achosi peryg tân difrifol.
"Roedd y troseddwyr wedi ymyrryd â'r cyflenwad er mwyn osgoi'r meter drwy godi lloriau er mwyn cael y prif gebl o'r stryd. Cyn i ni wneud unrhyw waith rhaid i'r tŷ gael ei wneud yn ddiogel gan Scottish Power.
"Gall ffermydd canabis edrych yn normal ar yr olwg gyntaf ond mae ffenestri du, oglau melys a gwyntyllau diwydiannol yn arwydd bod canabis yn cael ei dyfu y tu ôl i'r drysau.
"Rydym yn gweithio'n galed i darfu ac atal grwpiau troseddol a helpu atal cymdogaethau rhag cael eu hecsploetio gan y troseddwyr hyn. Buaswn i'n apelio ar unrhyw un sy'n gwybod am fodolaeth fferm ganabis i gysylltu hefo ni ar 101 neu ffonio'r llinell gymorth annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."
Dyma arwyddion bod eiddo'n cael ei ddefnyddio fel fferm canabis
Arwydd bod rhywun yn dioddef caethwasiaeth fodern