Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 42 oed wedi cael ei ddedfrydu heddiw am gam-drin plentyn yn rhywiol.
Gwadodd Sean Thomas Jones, o Ffordd Bagillt, Maes Glas, wyth cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Ond cafodd ddedfryd euog unfrydol gan reithgor am yr holl gyhuddiadau yn dilyn ail achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis diwethaf, wedi i'r cyntaf fethu â dod i ddyfarniad.
Fe'i dedfrydwyd i 11 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Mercher, 15 Mai).
Cafodd Jones ei arestio ar 11 Ionawr 2021, pan fu'r dioddefwr ddigon dewr ac ymddiried yn ei mam a dweud ei bod wedi cael ei cham-drin yn rhywiol.
Roedd y cam-drin wedi digwydd yn rheolaidd dros gyfnod o dair blynedd, o'r adeg pan oedd y dioddefwr tua 12 oed. Ar adegau, byddai Jones yn cynnig gwin iddi, cyn ymosod arni'n rhywiol.
Byddai'n llwgrwobrwyo'r dioddefwr i gyflawni gweithrediadau rhywiol trwy gynnig prynu alcohol a thybaco iddi hi a'i ffrindiau yn gyfnewid, ac ar un achlysur, roedd wedi darparu melysion canabis bwytadwy iddi.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Janette Williams sef y swyddog ymchwilio: "Mae troseddau Jones wedi cael effaith ddinistriol ar y dioddefwr, a gafodd ei chamddefnyddio a'i rhwydo ganddo dros gyfnod o dair blynedd.
"Nid yw wedi difaru dim trwy gydol yr achos, tra bod ei ymddygiad a'i droseddu o wedi cael effaith emosiynol barhaol ar y dioddefwr.
"Dwi'n ei chanmol hi am gymryd y cam anhygoel o ddewr o riportio troseddau Jones i ni, ac am ei hurddas a'i chryfder drwy gydol y ddau achos. Dwi hefyd am gydnabod dewrder y tystion a ddaeth ymlaen i ategu'r achos hwn.
"Dwi'n croesawu dedfryd hir heddiw, sy'n anfon neges glir y bydd trais yn erbyn merched a genethod ifanc yn cael ei gosbi. Ni fyddwn ni’n rhoi'r gorau i'n hymdrechion ni i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru