Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir y Fflint wedi cael ei garcharu am chwech o flynyddoedd yn dilyn cael ei ganfod yn euog o dreisio merch yn ei harddegau.
Dedfrydwyd Allistair Rhys McHugh o Ffordd Penymynydd, Penyffordd yn Llys y Goron, Caernarfon, heddiw (dydd Gwener, 31 Mai).
Mis diwethaf, dedfrydwyd y dyn 35 oed am y drosedd a ddigwyddodd ym mis Ionawr 2017.
Bu McHugh, a oedd yn 28 oed ar y pryd yn erlid y dioddefwr 16 oed dros gyfnod o amser drwy anfon nifer o negeseuon ati mewn ymgais i'w chael i fynd i'w gartref.
Mi wnaeth ei threisio a bu’n rhaid iddi ddianc o’r tŷ.
Dywedodd Ditectif Rhingyll Michael Starkey, a wnaeth arwain yr ymchwiliad ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r dioddefwr wedi dangos gwytnwch anhygoel drwy gydol y broses. Mae ei dewrder wedi dangos bod troseddwyr fel hyn yn gallu cael eu herlyn er gwaetha'r ffaith bod amser wedi mynd heibio.
“Mae'r gefnogaeth barhaus a roddwyd i'r dioddefwr gan Swyddogion Cydlynu Troseddau Rhywiol a Chynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol wedi bod yn werthfawr iawn.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi i erlid y troseddwyr mwyaf treisgar a pheryglus sy'n troseddu yn erbyn merched a genethod. Hoffwn annog unrhyw un sy'n dioddef cam-drin o'r fath i gysylltu â ni. Cewch eich credu a chaiff eich gwybodaeth ei drin yn gwbl gyfrinachol."
Ymgyrch Unite yw ein hymateb i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru