Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog wedi ymddeol wedi rhoi rhodd i Heddlu Gogledd Cymru i ddathlu’r hanner canmlwyddiant.
Mae Chris Perkins sydd wedi gwasanaethu'r Heddlu am 30 mlynedd wedi cadw pysgod ers oedd yn 12 oed ac yn ddiweddar mae wedi bod yn ceisio chwilio am gartref newydd iddynt.
Symudodd Chris i Heddlu Gogledd Cymru ym 1991 o Heddlu Manceinion fwyaf ac mi wnaeth ymddeol yn 2010 gan ail ymuno fel SCCH cyn dod yn gydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona i edrych ar ôl Swyddogion Gwirfoddol yr Heddlu.
Dywedodd Chris: “Daeth diddordeb 50 oed i ben i mi'r penwythnos hwn gan i mi gadw pysgod am 50 mlynedd. Ar y penwythnosau nawr dw i'n licio mynd i ffwrdd yn fy VW Campervan ac felly does gen i ddim cymaint o amser i ofalu am y pwll pysgod adref.
“Ar ôl cael caniatâd i roi fy mhysgod i'r Heddlu i ddathlu ei hanner canlwyddiant maent nawr yn eu cartref newydd y tu allan i'r Pencadlys ym Mae Colwyn. Dyma fy rhodd i i'r Heddlu am gael fy nerbyn ym 1991.
“Y pysgodyn mwyaf yw Koi Carp 22 oed o'r enw Biggish – gall fyw i fod yn 70 oed felly gobeithio y bydd o gwmpas i ddathlu canmlwyddiant yr heddlu.
"Dw i'n hapus i roi cartref newydd i'r pysgod a gobeithio y byddant yn hapus yn eu cartref newydd. Byddaf yn cadw llygad arnynt ac yn sicrhau bod y pwll mewn cyflwr da."
Cafodd y Pencadlys ei adeiladu yn y 70au a'i agor yn swyddogol yn 1973 ac mae'r pwll wedi bod yn nodwedd amlwg yno - yn denu llawer o ymwelwyr dros y blynyddoedd. Mae'r pwll wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar.
Mae'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman yn ddiolchgar am haelioni Chris. Dywedodd: "Rydym yn falch o allu rhoi cartref newydd i'r pysgod a byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael gofal.
“Mae 2024 yn flwyddyn arbennig i'r heddlu wrth i ni edrych yn ôl ac hefyd edrych ymlaen at yn 50 mlynedd nesaf. Un peth sy'n glir; mae swyddogion heddlu a staff bob amser yn dangos teyrngarwch, ymroddiad ac angerdd tuag at wasanaethu Gogledd Cymru ac mae Chris yn enghraifft o hyn. "Hoffwn estyn fy niolch iddo a'i deulu am y rhodd yma."
Mae Chris wedi rhoi 24 o bysgod i'r heddlu - yn cynnwys 12 Koi Carp, seren gynffon, stwrsiwn a deg pysgodyn aur.
Caiff ymwelwyr a fydd yn dod i'r Diwrnod Agored ar 14 Medi y cyfle i weld y pwll a'r pysgod o flaen yr adeilad.
50 mlwyddiant
Mae plismona wedi bodoli yng Ngogledd Cymru ers dros 160 o flynyddoedd ond ffurfiwyd Heddlu Gogledd Cymru ym mis Ebrill 1974.
Ffurfiwyd yr Heddlu pan grëwyd siroedd newydd Gwynedd a Chlwyd gan uno heddluoedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gwynedd, a oedd yn cynnwys Sir Gaernarfon, Ynys Môn a Sir Feirionnydd.
Bydd nifer o ddathliadau yn digwydd drwy gydol 2024, yn cynnwys Diwrnod Agored ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn ar 14 Medi - manylion i ddilyn.
I gael gwybod mwy am yr holl ddathliadau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf dilynwch #HGC50 ar ein cyfryngau cymdeithasol a dilyn ein gwefan www.northwales.police.uk