Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Ebrill, mi wnaethom ni lansio rhaglen o fesurau er mwyn taclo trais difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled y rhanbarth.
O dan y rhaglen, fydd yn parhau drwy gydol 2024 ac i 2025, mae adnoddau patrôl ychwanegol yn cael eu dosbarthu i ardaloedd lle mae’r math yma o droseddau yn fwy cyffredin.
O dan yr enw ‘Ymgyrch Restore’, mae’r gallu gweithredol uwch wedi’i fuddsoddi gan y Swyddfa Gartref, fel rhan o’i fenter “Ymateb i Lecynnau”.
‘Da ni’n falch medru adrodd ein bod ni’n gweld canlyniadau cadarnhaol yn barod, ac, ers lansio, mae dros 1000 o oriau o batrolau ychwanegol yn benodol ar gyfer llecynnau wedi cymryd lle.
Nid yn unig mae hyn wedi cynyddu ein hamlygrwydd mewn ardaloedd problemus, ond, diolch i ymgysylltiad â thrigolion lleol, busnesau a chynghorwyr, ‘da ni wedi arestio 14 o weithiau am amryw o droseddau, gan gynnwys bod ym meddiant arfau, bod ym meddiant cyffuriau dosbarth A efo’r bwriad o gyflenwi, a throseddau trefn gyhoeddus.
Hyd yn hyn, yn ystod y patrolau ychwanegol yma, ‘da ni wedi gwneud 35 achos o stopio a chwilio, ac mae’r patrolau wedi nodi problemau penodol ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n golygu ein bod yn ymgynghori yn rhagweithiol efo’n partneriaid a sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn helpu patrolau yn y dyfodol a chyflawni ymateb cydweithredol ar gyfer nodi’r achosion gwreiddiol o’r digwyddiadau yma.
Yn ychwanegol, ‘da ni wedi cynnal ymgyrchoedd Troseddau Ffyrdd arbennig, gan dargedu defnydd gwrthgymdeithasol, risg mawr o gerbydau, gan gynnwys defnydd o gerbydau wedi’u haddasu a rasio ar y stryd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Geddes, arweinydd Ymgyrch Restore i HGC: “’Dwi’n falch o weld canlyniadau cadarnhaol cynnar efo Ymgyrch Restore.
“Mi wnaiff y mentrau o dan sylw yma barhau, a ‘da ni’n adolygu’r data trosedd a digwyddiadau yn barod o'r ardaloedd yma ac yn teilwra ein hymateb gweithredol yn briodol ac yn gymesurol.
“Mi hoffwn i ddiolch i’n cymunedau lleol, sy’n rhoi gwybodaeth gwerthfawr i ni fedru gweithredu arno. Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu treisgar, ond yn teimlo na fedran nhw siarad efo’r tîm plismona lleol, mi hoffwn i eu hannog i gysylltu efo Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 a sôn am Ymgyrch Restore.”