Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae hyfforddwr taekwondo a oedd wedi rhwydo ac ymosod yn rhywiol ar fechgyn ifanc wedi cael ei garcharu.
Cafodd Glen Edwards, o Ffordd Buddug yn Wrecsam, ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o'r carchar ddoe, dydd Llun 29 Gorffennaf i chwe blynedd a 10 mis yn y carchar.
Cafwyd y dyn 32 oed yn euog gan reithgor o sawl trosedd rhyw yn erbyn plant ac roedd wedi cyfaddef sawl un arall mewn gwrandawiad cynharach.
Roedden nhw'n cynnwys gweithgarwch rhywiol hefo bechgyn ifanc, annog bechgyn ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, camfanteisio rhywiol ar blentyn ac achosi i blentyn wylio delweddau o weithgarwch rhywiol.
Cafodd hefyd ei gyhuddo o gymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol hefo plentyn a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd y troseddau eu cyflawni yn erbyn wyth o ddioddefwyr dros gyfnod rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mai 2021.
Byddai Edwards yn dod yn ffrindiau hefo plant ar y cyfryngau cymdeithasol, lle byddai'n gofyn cwestiynau rhywiol ac yn anfon delweddau rhywiol cignoeth o'i hun atynt, cyn gofyn yn gyson am ddelweddau yn gyfnewid.
Byddai'n cynnig lifftiau i rai ac yn prynu bwyd ac anrhegion iddyn nhw, tra bod plant eraill yn cael eu gwahodd i'w gartref.
Tra yn ei gar, fe wnaeth ymosod yn rhywiol ar rai o'i ddioddefwyr.
Ar ôl un o'r ymosodiadau, gwrthododd un o'r bechgyn ei gyfarfod eto, a arweiniodd at Edwards yn anfon negeseuon ato'n dweud wrtho ei fod yn gwybod lle roedd yn byw.
Ar achlysur arall, prynodd Edwards ddillad isaf i ddau fachgen ar ôl mynd â nhw allan ar drip siopa.
Cafodd yr heddlu wybod am ymddygiad Edwards ym mis Mai 2021 ar ôl i blentyn fynegi pryderon amdano wrth oedolyn arall.
Cafodd ei gyhuddo yn y diwedd ym mis Ionawr 2023.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, roedd rhaid i Edwards gofrestru fel troseddwr rhyw am oes a rhoddwyd gorchymyn atal niwed rhywiol iddo fo.
Rhoddwyd gorchymyn atal gydol oes iddo hefyd a oedd yn berthnasol i bob un o'r wyth dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Vicky Bates sef y swyddog ymchwilio: "Mae Edwards yn droseddwr rhyw ystrywgar oedd yn gwybod bod pob un o'i ddioddefwyr o dan oed.
"Mae pob plentyn o dan sylw wedi cael ei effeithio gan ei weithrediadau, hefo rhai yn dioddef trawma sylweddol.
"Mi fuaswn i'n hoffi cydnabod a chanmol y dewrder y maen nhw i gyd wedi'i ddangos wrth riportio'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw ac am sefyll yn erbyn Edwards yn y llys a dod ag ef o flaen ei well.
“Dwi'n annog pawb sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol i ddod ymlaen, gan wybod y byddwn ni'n gwneud popeth er mwyn ymlid troseddwyr a gwarchod y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni."