Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Tîm 'Dangos y Drws i Drosedd' Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei ffurfio er mwyn cydweithio hefo cymunedau a busnesau ledled Gogledd Cymru er mwyn lleihau trosedd, a dal ac euogfarnu troseddwyr sy'n cyflawni:
Mae'r rhain yn droseddau lle mae'r troseddwr yn elwa o'r drosedd. Fe'u gelwir gyda'i gilydd yn 'droseddau caffaelgar'. 'Da ni'n deall yr effaith y gall y mathau hyn o droseddau ei chael ar unigolion, cymunedau a busnesau. 'Da ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i'w hatal nhw.
Mae SCCH Tiff Davis yn gweithio y Nhîm 'Dangos y Drws i Drosedd' y Dwyrain. Hefo help y Rhingyll Sue Carrington, mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr hefo Cyngor Cymuned Nannerch er mwyn hyrwyddo'r defnydd o SmartWater yn eu cymuned nhw.
Mae SmartWater yn hylif a ellir ei olrhain ac yn system marcio asedau fforensig sy'n cael ei roi ar eitemau gwerthfawr er mwyn atal ac adnabod lladron. Mae'r hylif yn gadael ôl unigryw. Mae'n anweledig oni bai o dan olau uwchfioled.
Mae Cyngor Cymuned Nannerch wedi ariannu 100 o becynnau SmartWater ar gyfer cartrefi yn y pentref. Mae'r pecynnau yn cael eu prynu gan Deter Tech sy'n cynhyrchu'r pecynnau SmartWater ac yn cynnig gostyngiad sylweddol i grwpiau sy'n cyflwyno archebion mawr.
Helpodd SCCH Davis a'r Rhingyll Carrington ddosbarthu'r pecynnau hyn i breswylwyr. Gwnaethon nhw egluro sut maen nhw'n gweithio, yn ogystal â rhoi pecynnau cyngor atal trosedd 'Cymdogaeth Ddiogelach' at ei gilydd i gyd-fynd hefo pob pecyn SmartWater.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Helen Douglas sy'n arwain y Tîm 'Dangos y Drws i Drosedd': "'Da ni'n gwybod bod troseddwyr yn tueddu dychwelyd i gymdogaeth y maen nhw eisoes wedi bod ynddi, a lle maen nhw eisoes wedi cyflawni trosedd. 'Da ni eisiau torri'r patrwm hwnnw.
'Da ni'n gwybod ei bod yn llai tebygol y bydd troseddwyr yn targedu eiddo sy'n cael ei warchod hefo marciau fforensig sy'n ei gwneud hi'n haws cysylltu troseddwyr â throsedd benodol, sicrhau euogfarn a dychwelyd eiddo at y perchennog cywir. Bydd y camau hyn yn helpu atal troseddwyr rhag targedu cymdogaethau a gwneud ein cymunedau'n saffach.
Fel rhan o'n gwaith Cymdogaethau Mwy Diogel, mae ein tîm ni wedi bod yn cydweithio hefo cymdogaethau a chynghorau cymuned ledled Gogledd Cymru er mwyn cynnig y warchodaeth trwy dechnoleg marcio eiddo fforensig. Mae'r dechnoleg hon yn helpu eich cadw chi a'ch eiddo'n saff. 'Da ni'n eich annog chi farcio'ch eiddo hefo SmartWaterTech, sef technoleg fforensig anweledig. Byddwn ni'n arddangos arwyddion ledled yr ardaloedd Cymdogaeth Mwy Diogel, gan nodi bod eiddo wedi'i warchod yn saff hefo technoleg fforensig.
'Da ni'n falch iawn o weld cymuned Nannerch wedi cefnogi'r fenter hon. 'Da ni'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth Cyngor Cymuned Nannerch a drefnodd sesiynau galw heibio i breswylwyr, o dan arweiniad y Rhingyll Carrington a SCCH Davis. Mae cymuned Nannerch yn gweld ein Hardal Cymdogaeth Fwy Diogel gyntaf ni drwy'r Rhaglen Dangos y Drws i Drosedd. 'Da ni'n edrych ymlaen yn fawr at helpu cymunedau eraill ledled Cymru o dan yr un fenter."
Gallwch ddarganfod mwy am ein menter 'Dangos y Drws i Drosedd' ni a'r gwaith 'da ni'n ei wneud er mwyn helpu atal trosedd a chadw cymunedau'n saff ar ein gwefan ni – Dangos y Drws i Drosedd | Heddlu Gogledd Cymru