Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Graddiodd blwyddyn gyfan o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, gyda nifer yn derbyn graddau rhagorol.
Derbyniodd 75 o raddedigion eu tystysgrifau gradd ar ddiwedd eu hastudiaethau.
Mae'r pump cohort yn cynnwys myfyrwyr Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) a myfyrwyr Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd (DHEP).
Mae'r llwybrau hyn yn ffurfio rhan o'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF), y fframwaith hyfforddi proffesiynol ar gyfer swyddogion heddlu.
Llwyddodd pob swyddog yn eu hastudiaethau gan gael eu hasesu drwy gyfuniad o waith academaidd a dyletswyddau patrôl gyda swyddogion llinell flaen.
Mae pob un sydd wedi graddio yn unigolion disglair sydd wedi dangos gallu arbennig.
Wedi'i lansio yn 2020, mae'r cydweithrediad rhwng HGC a'r brifysgol wedi caniatáu i fyfyrwyr gyfuno dysgu academaidd gyda dysgu yn y gweithle.
Mae'r cynllun llwybr deuol yn cydnabod yn ffurfiol y sgiliau a welir gan weithwyr proffesiynol yr heddlu heddiw a'r galwadau a osodir arnynt gan amgylchfyd gweithio cynyddol gymhleth.
Bu Prif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol ymhob un o'r seremonïau graddio ar draws yr wythnos.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Hoffwn longyfarch ein holl raddedigion ar eu canlyniadau gwych a'u cymeradwyo nhw am eu gwaith caled a'u hymroddiad i ddysgu.
"Gwnaiff y swyddogion newydd hyn, sy'n dod gyda sgiliau amrywiol, gydweithredu gyda ni er mwyn cyflawni'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
"Mae plismona yn ymwneud â dyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus a dw i'n gwybod y bydd y swyddogion hyn yn gwneud eu gorau i gynnal blaenoriaethau'r heddlu a sicrhau mai Gogledd Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU.
"Mae bod yn swyddog heddlu yn yrfa amrywiol a gwerthfawr. Rwyf yn siŵr fod gan y swyddogion hyn ddyfodol gwych o'u blaenau."
Dywedodd Suzanne Wilson, Pennaeth Dysgu a Datblygu Heddlu Gogledd Cymru: "Dw i wrth fy modd bod ein partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn parhau i roi canlyniadau positif i'n myfyrwyr.
"Mae plismona'n wasanaeth dynamig sydd ar waith mewn amgylchfyd cymhleth sy'n newid yn gyflym felly mae'n bwysig fod ein swyddogion yn derbyn yr hyfforddiant gorau posibl er mwyn eu paratoi nhw am yrfa'n gwasanaethu'r cyhoedd.
"Mae'r gymysgfa o ddysgu gweithredol ac academaidd yn rhoi sylfaen gynhwysfawr iddynt ym mhob maes plismona.
"Rwyf yn ymwybodol o waith caled ac ymroddiad y swyddogion hyn. Rwyf yn dymuno'r gorau oll iddynt yn eu gyrfaoedd newydd."
Dywedodd Enlli Thomas, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes: "Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr sy'n graddio, y cwnstabliaid heddlu a'r myfyrwyr plismona proffesiynol ar eu llwyddiant.
"Mae ein cydweithredu gyda Heddlu Gogledd Cymru ym maes dysgu ac ymchwil yn dangos ymroddiad y Brifysgol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ar draws addysg, iechyd, gwaith cymdeithasol a chyfiawnder troseddol, fel bod cymunedau ar draws Gogledd Cymru yn elwa."
Ychwanegodd Dr Tim Homes, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Bangor: “Mae'n wych gweld myfyrwyr Heddlu Gogledd Cymru yn graddio."
“Yn ystod eu hastudiaethau maent wedi dysgu troseddeg ac arfer da ym maes plismona.
“Gyda chydweithredu a chefnogaeth barhaus gan hyfforddwyr a thiwtoriaid Heddlu Gogledd Cymru, rydym hefyd wedi gweld eu datblygiad proffesiynol fel cwnstabliaid heddlu mewn cymunedau yng Ngogledd Cymru.
"Maent wedi dangos dyfalbarhad ac ymroddiad arbennig fel myfyrwyr a swyddogion heddlu ac rydym yn falch o'u gweld yn symud ymlaen gyda'u gyrfaoedd yn Heddlu Gogledd Cymru."