Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef ymosod ar ddyn a dwyn ei eiddo.
Ymddangosodd Trefor Glyn Evans o Ffordd y Gogledd yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Mawrth, 25 Gorffennaf ar ôl cyfaddef i droseddau lladrata.
Gyda’r nos ar 29 Ionawr roedd dyn yn cerdded adref yn ardal Afon Goch yng Nghaernarfon pan wnaeth Evans ei fygwth a gofyn am arian oddi wrtho. Dechreuodd Evans ymosod ar y dyn, ei guro a'i gicio yn ei ben. Cymerodd ei ffôn, a hefyd ei got, ei het a'i esgidiau.
Llwyddodd y dyn i redeg i ffwrdd i'r orsaf heddlu a riportio'r hyn a wnaeth ddigwydd.
Llwyddodd swyddogion i ganfod Evans a'i arestio ychydig yn ddiweddarach ar yr un noson.
Cafodd ei garcharu am bedair blynedd a thri mis. Derbyniodd orchymyn atal yn nodi na ddylai gysylltu â'r dioddefwr am gyfnod o 10 mlynedd.
Dywedodd y Rhingyll Cynorthwyol Andy Davies: “Dylai pawb deimlo'n ddiogel pan maen nhw allan yn eu cymuned heb ofn bod rhywun yn mynd i ymosod arnynt.
"Gobeithio y bydd dedfryd Evans yn rhoi sicrwydd i bobl na fydd trais yn cael ei oddef a byddwn yn erlid pawb sy'n ceisio achosi niwed."