Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 49 oed wedi ei garcharu ar ôl cerdded i fewn y dŷ dynes yn ddigroeso, ac ymosod arni hi’n rhywiol tra ‘roedd hi’n cysgu.
Mi dresmasodd Ian Wynne Williams, o Mount Road, Llanfairfechan, i dŷ’r ddynes, a thynnu ei ddillad cyn dringo i’w gwely.
Mi ymddangosodd yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Llun, 8 Gorffennaf, ar ôl euogfarn am ymosodiad rhywiol a thresmasu ymwybodol efo’r bwriad o gyflawni trosedd rhywiol.
Roedd y digwyddiad ym mis Rhagfyr 2022, pan gafodd y ddynes ei deffro gan rhywun yn ei chofleidio o’r tu ôl iddi hi. Mi wnaeth hi sgrechian, gan ddeffro ei mab, a wnaeth orfodi Williams o'r tŷ.
Mi gafodd ei garcharu am gyfnod estynedig o 10 mlynedd. Mi dderbyniodd orchymyn atal amhenodol i beidio cysylltu efo’r dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jennifer Williams: “’Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus ofnadwy wnaeth ddigwydd yng nghartref y dioddefwr tra ‘roedd hi’n cysgu.
“’Roedd hyn yn ymyriad ar ei diogelwch hi, sydd wedi cael effaith fawr ar ei bywyd.
“’Roedd hi’n ddewr iawn drwy gydol yr ymchwiliad, a ‘dwi’n gobeithio bod y ddedfryd yn tawelu ei meddwl na fedr Williams achosi niwed i ragor o ferched.
“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi cael profiad o ymosodiad rhywiol i ddod atom ni a chael help. Mi wnawn ni wrando ac erlid troseddwyr.”