Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd grŵp o swyddogion a staff o Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn taith feicio elusennol oddeutu 200 milltir y penwythnos yma er mwyn casglu arian tuag at elusen COPS (Care of Police Survivors).
Rhwng 26 a 28 Gorffennaf, bydd 20 aelod o Heddlu Gogledd Cymru – gan gynnwys y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, yn seiclo, ac yn cefnogi, o Aberystwyth i’r Goedardd Goffa Genedlaethol yn Swydd Stafford fel rhan o daith Feicio Undod Heddlu’r DU 2024 er budd COPS.
Elusen gofrestredig ydy COPS sy’n cynorthwyo teuluoedd swyddogion heddlu sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu. Ei nod ydy sicrhau bod y rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn cael yr holl gymorth sydd angen arnynt er mwyn ymdopi â’r drasiedi a’u cynorthwyo aros yn rhan o deulu’r heddlu wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau.
Dechreuodd Taith Undod yr Heddlu yn 1997 yn New Jersey, UDA er mwyn codi ymwybyddiaeth am swyddogion heddlu a laddwyd wrth wasanaethu’r heddlu, anrhydeddu eu haberth a chodi arian i’w teuluoedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Dros Dro Owain Llewellyn, sy’n trefnu cyfraniad Heddlu Gogledd Cymru eleni: “Mae COPS yn elusen wych sy’n darparu gymaint o gymorth i deuluoedd swyddogion sydd wedi marw.
“Mae seiclo’r daith hon yn ffordd i ni gyd gofio’r swyddogion hynny. Unwaith eto, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan a chynorthwyo codi arian ar gyfer yr elusen werthfawr hon.
“Bydd pob seiclwr yn derbyn breichled gydag enw a gwybodaeth am y Swyddog Heddlu a fu farw wrth wasanaethu a byddwn ni gyd yn eu gwisgo hyd nes ein bod yn croesi’r linell derfyn.
“Mae’r daith ei hun oddeutu 200 milltir ar lwybr heriol a fydd yn cael ei chwblhau dros dridiau. Mae’n fwriadol yn heriol er mwyn cofio’r aberth gan ein cydweithwyr a fu. Bydd heddluoedd eraill ar draws y DU yn ymuno â ni a byddwn yn seiclo gyda’n gilydd i Goedardd Goffa Genedlaethol yr Heddlu yn Swydd Stafford am Wasanaeth Cofio.
Fe ychwanegodd yr Uwcharolygydd Dros Dro Llewellyn: “Mae nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u cynnal gan gynnwys gwerthu teisennau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn. Rydym yn hynod o ddiolchgar am unrhyw rodd – bach neu fawr. Gallwch gyfrannu drwy ein tudalen Just Giving. Cefnogwch os y gallwch.”
Bydd y timau yn cael eu cynorthwyo gan Fan Les Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae dau swyddog yr heddlu eisoes wedi cwblhau taith 200 milltir er mwyn cynhesu’r cyhyrau cyn y brif daith er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r elusen a’r daith.
Yn ddiweddar gwnaeth y Prif Arolygydd Rob Rands, sy’n gweithio ar Ynys Môn, a’r Arolygydd Mike Andrew, sy’n gweithio yn y ddalfa yn Llanelwy deithio 101 milltir o Gaergybi i’r Pencadlys Heddlu ym Mae Colwyn – gan fynd heibio Bermo draw i’r Bala. Gwnaethon nhw nhw aros dros nos yng ngorsaf heddlu’r Bala cyn ail-gychwyn eu taith y diwrnod wedyn i Fae Colwyn – gan deithio drwy Llangollen, Wrecsam, Yr Wyddgrug a Dinbych.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rob Rands: “Roeddem eisiau ymweld â chymaint o orsafoedd heddlu ag sy’n bosib fel rhan o’r daith yma er mwyn codi ymwybyddiaeth.
“Mae’r elusen COPS yn un y dylai pob swyddog heddlu fod yn ymwybodol ohono ac un y dylai nhw ei gefnogi. Rydym ni gyd yn dod i’n gwaith bob diwrnod, ac rydym yn ymwybodol o’r peryglon yr ydym yn ei wynebu. Boed ar y ffordd i’n gwaith, yn y gwaith, neu ar y ffordd adref – petai rhywbeth yn digwydd i ni rydym yn gwybod y buasai elusen COPS yno i ni a’n teuluoedd.
“Heblaw am beipen ddŵr oedd wedi byrstio ym Mhenygroes, a oedd yn golygu nad oeddem yn gallu ail-lenwi ein poteli dŵr, cawsom noson ddi-gwsg ac achosion o ddisgyn oddi ar y beic. Fodd bynnag roedd hwn yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am y daith ac hefyd cael cyfle i ymarfer cyn y prif ddigwyddiad.”
Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Mae elusen COPS yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n fraint o hyd cymryd rhan yn y digwyddiad yma.
“Mae’r gwaith y mae COPS yn ei wneud yn hanfodol. Tra na ddylai neb orfod fod angen eu gwasanaeth, mae’n ffaith drist bod ei angen ar rai. Mae’n fraint seiclo gyda’n gilydd er mwyn cofio ein cydweithwyr a dangos na wnawn ni fel gwasanaeth heddlu fyth anghofio eu haberth.”
Amserlen teithio
Diwrnod 1: Dydd Iau, 25 Gorffennaf
Diwrnod 2: Dydd Gwener 26 Gorffennaf (diwrnod cyntaf y daith yn swyddogol)
Diwrnod 3: Dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf
Diwrnod 4: Dydd Sul, 28 Gorffennaf