Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae digwyddiad mwyaf heriol yng nghalendr chwaraeon yr heddlu newydd ddathlu 50 mlwyddiant.
Mae ras mynyddig flynyddol Saith Eryri (Snowdonia Sevens) – sy’n annog ffitrwydd, cydweithio a dygnwch yn agored i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr heddluoedd y Deyrnas Unedig.
Wedi’i drefnu gan Bwyllgor Saith Eryri, dan arweiniad Cymdeithas Chwaraeon Heddlu Gogledd Cymru, mae’r her yn gweld timau yn teithio saith o gopaon mynydd uchaf Parc Cenedlaethol Eryri, yn croesi cyfanswm o 8,000 troedfedd o ddringo mewn llai na 10 awr. Y dringo cyntaf (sef y cynhesu!) oedd teithio o Lanberis i gopa’r Wyddfa.
Yn gynnar dydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 29) cychwynnodd 50 tîm o bedwar gyda chystadleuwyr yn cynrychioli 23 o Heddluoedd o bob cwr o Gymru a Lloegr o Lanberis ar gyfer dechrau’r ras galed 22 milltir. Roedd y tywydd yn arw gyda glaw trwm y rhan fwyaf o’r dydd a brofodd ddygnwch y cystadleuwyr a’r marsialiaid.
Enillwyr 2024 oedd Cumbria A (Tîm 45) o Heddlu Cumbria a gwblhaodd y cwrs mewn pum awr a 30 munud ardderchog.
Yn rhyfeddol, enillwyd y digwyddiad cyntaf ym 1974 hefyd gan Tîm 45 ac fe’u croesawyd dros y linell gan aelodau o’r enillwyr gwreiddiol.
Hanes y digwyddiad
Cychwynnodd y digwyddiad yn 1973 pan wnaeth PC Cynan Davies – swyddog o fewn Uned Hyfforddi Heddlu Gogledd Cymru benderfynu y byddai’n syniad da i Gadetiaid yr Heddlu ymgymryd â rhywfaint o ‘hyfforddiant antur.’ Gyda’r Parc Cenedlaethol yn agos dewisodd y mynyddoedd fel lleoliad i’w datblygu.
Ar ôl cael y Cadetiaid i ddysgu am y mynyddoedd, offer, darllen mapiau a heicio pellteroedd hir, fe benderfynodd PC Davies y buasai’n syniad da i herio Cadetiaid Heddluoedd eraill i brawf mynydd. Danfonwyd gwahoddiadau ac o’r fan honno fe gychwynnodd y ras yn haf 1974 – sef Ras Saith Eryri.
Ar ôl llwyddiant y ras gyntaf cafodd ei hail-adrodd y flwyddyn wedyn ac fe barhaodd hyd at 1983 pan ddaeth yn amlwg bod nifer o heddluoedd yn diddymu recriwtio cadetiaid, gan wneud y ras yn fwy na hyfyw fel digwyddiad i gadetiaid yn unig. Penderfynodd agor y ras ar gyfer Swyddogion yr Heddlu a oedd eisiau her. Parhaodd y fformat hwn o Gadetiaid ochr yn ochr â swyddogion am rai blynyddoedd, nes i’r tîm Cadetiaid olaf gystadlu ym 1994.
Yn 2005 fe newidiodd y llwybr a’i ehangu o 15 milltir i 22 milltir, i gychwyn a gorffen o Lanberis – cartref traddodiadol rhedeg mynydda Cymreig, ac mae hwn yn parhau hyd heddiw.
Meddai Mark Owen, Rheolwr Dinasyddion Mewn Plismona Heddlu Gogledd Cymru a Chyfarwyddwr y Ras: “50 mlynedd a miloedd o gystadleuwyr yn ddiweddarach ac mae’r ras yn dal i fynd o hyd.
“Mae pethau wedi newid llawer ers 1974 ond mae’r digwyddiad yn dal i fod yn brawf caled o ffitrwydd, stamina, sgiliau llywio a gwaith tîm.
“Dros y blynyddoedd rydym wedi cael rhai adegau cofiadwy, gyda phob un unigolyn yn adrodd stori; boed fel cystadleuwr neu farsial, neu hyd yn oed yn gwneud paned, mae’r digwyddiad wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau mewn rhyw ffordd.
“Mae categorïau newydd wedi’u cyflwyno i wneud y digwyddiad yn fwy cynhwysol, gyda chategorïau benywaidd a chymysg ac yn fwy diweddar y categori Super Veterans – lle mae’n rhaid i bob aelod o’r tîm fod yn 50 oed neu’n hŷn.
“Mae’n ymddangos fod poblogrwydd y digwyddiad yn parhau i fod mor uchel ag erioed. Wedi’i ariannu’n gyfan gwbl gan ffioedd cofrestru a nawdd, mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan dîm o wirfoddolwyr o swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru.
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i bob un ohonynt sy’n helpu trefnu, a hoffem ddiolch hefyd i’n noddwyr, Cotswold Outdoor am eu cefnogaeth barhaol.
“Agorwyd digwyddiad eleni yn swyddogol gan y sylfaenydd gwreiddiol, Cynan Davies ac roedd yn wych ei gael o hefo ni er mwyn nodi’r 50 mlwyddiant. Fe ddaeth Cynan i’r seremoni wobrwyo a chyflwyno’r cwpan gwreiddiol i’r tîm buddugol. Cafodd gymeradwyaeth wresog gan bawb oedd yn bresennol.”
Meddai Cynan Davies, sylfaenydd y digwyddiad: “Pan drefnais y digwyddiad hwn am y tro cyntaf, ni fuaswn erioed wedi breuddwydio y byddai’n parhau 50 mlynedd yn ddiweddarach.
“Ymysg pethau eraill, fy rôl hefo Cadetiaid Heddlu Gogledd Cymru oedd mynd â nhw i fynyddoedd Eryri yn wythnosol. Ar yr adeg honno roedd y fyddin hefyd yn hyfforddi yn yr ardal a nes i ddarganfod bod ganddynt uned cadetiaid. Yn y pen draw dysgais fod ganddynt ddigwyddiadau Cadetiaid y Fyddin a fyddai’n digwydd yn Eryri. Felly, dechreuais ddod i adnabod eu harweinwyr, ac yn y diwedd llwyddais i gael rhai o’m cadetiaid i mewn i’w ras nhw. Ac nid yn unig hynny, aeth un ohonynt ymlaen i ennill. Gallwch fentro fy mod i wedi bod yn falch iawn.
“O hynny ymlaen ar ôl yr holl hyfforddiant, meddyliais am ffyrdd o gael y Cadetiaid i gyd at ei gilydd, a diolch byth derbyniwyd cefnogaeth y Prif Gwnstabl ar y pryd, sef Philip Myers.
“Ymhen tipyn fe wnes i ddod yn ffrind i Brif Warden y Parc Cenedlaethol ar y pryd, sef John Ellis Roberts, sydd yn anffodus ddim gyda ni mwyach. Diolch byth, rhoddodd help gwerthfawr i mi gyda threfnu’r llwybrau a’r llywio a dyna sut y cafodd ras Saith Eryri ei eni. Hanes yw’r gweddill wrth gwrs.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, a aeth i gyflwyniad y ras: “Roedd yn anrhydedd llwyr rhoi gwobrau i’r enillwyr a’r rhedwyr, a hefyd cwrdd a siarad â’r rhedwyr a oedd wedi dod i ymuno â ni o bob cwr o Gymru a Lloegr. Roedd yn arbennig o wych cyfarfod a sgwrsio â Cynan Davies – sylfaenydd y digwyddiad hwn 50 mlynedd yn ôl. Mae arnom ddyled fawr iddo ac mae ei weld yn mynd o nerth i nerth flwyddyn ar ôl blwyddyn yn anhygoel.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran a diolch o waelod calon i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith ar y diwrnod.”
Cyflwynwyd 50 o dimau gyda’r enillwyr 2024 fel:
Dathlu 50 mlwyddiant Heddlu Gogledd Cymru:
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dathlu 50 mlwyddiant yn 2024. Mae plismona wedi bodoli yng Ngogledd Cymru ers dros 160 o flynyddoedd ond ffurfiwyd Heddlu Gogledd Cymru ym mis Ebrill 1974.
Ffurfiwyd yr Heddlu pan grëwyd siroedd newydd Gwynedd a Chlwyd gan uno heddluoedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gwynedd, a oedd yn cynnwys Sir Gaernarfon, Ynys Môn a Sir Feirionnydd.
Bydd nifer o ddathliadau yn digwydd drwy gydol 2024, yn cynnwys Diwrnod Agored ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn ar 14 Medi - manylion i ddilyn.
I gael gwybod mwy am yr holl ddathliadau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf dilynwch #HGC50 ar ein cyfryngau cymdeithasol a dilyn ein gwefan www.heddlugogleddcymru.police.uk