Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gorchymyn gwasgaru a phresenoldeb plismona uwch yn parhau er mwyn atal digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardaloedd Rhos, Ponciau a Johnstown.
Mae’r gorchymyn ar waith o 4pm dydd Sul, 22 Rhagfyr tan 4pm dydd Mawrth, 24 Rhagfyr, yn dilyn cynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau ers diwedd mis Hydref.
‘Da ni wedi derbyn sawl hysbysiad ynglŷn â grŵp mawr o bobl ifanc yn codi ofn ar aelodau’r cyhoedd, drwy daflu cerrig ac wyau tuag at gerbydau a thai, lladrata ac achosi niwsans mewn eiddo manwerthu.
O ganlyniad, mi awdurdododd yr Arolygydd Darren Groom bod gorchymyn gwasgaru yn cael ei osod, sy’n berthnasol i’r ardal sydd wedi’i hamlinellu ar y map, isod.
Mae’n rhoi’r grym i swyddogion heddlu a SCCH gyfeirio unrhyw un sy’n ymwneud efo ymddygiad gwrthgymdeithasol i adael yr ardal a pheidio â dychwelyd.
Dywedodd Rhingyll Stuart Roberts: “Mae codi ofn ar aelodau’r cyhoedd yn annerbyniol ac ni wnawn ni ei oddef.
“’Da ni’n cymryd bob hysbysiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd hyn o ddifri, ac yn atgoffa unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio efo’r gorchymyn gwasgaru hwn eu bod nhw am gael eu harestio.
“Unwaith eto, ‘dwi’n annog rhieni drafod hyn efo’ch plant chi, a sicrhewch eich bod yn gwybod lle maen nhw a be’ maen nhw’n ei wneud.”