Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu Gogledd Cymru ydy un o'r goreuon yn y wlad o ran cofnodi troseddau. Mae ganddo flaenoriaethau clir ac mae'n trin pobl hefo parch yn ôl adroddiad PEEL AHEF a gafodd ei ryddhau heddiw.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod bod yr heddlu'n gweithio'n galed er mwyn gwella ei ddiwylliant.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae'n galonogol bod ein cofnodi troseddau wedi'i raddio'n Rhagorol. Dim ond ychydig o heddluoedd eraill sy'n cyflawni hyn. Mae ein cymunedau'n gallu bod yn hyderus ein bod yn delio hefo trosedd ac yn gweithio i'w atal o.
"Un o'r pethau cyntaf wnes i fel Prif Gwnstabl oedd comisiynu archwiliad diwylliannol. Arweiniodd hyn at gryn dipyn o waith ar draws y sefydliad. Mae'r ffaith bod ein gwaith yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod yn yr adroddiad yn galonogol."
O ran Arweinyddiaeth roedd yr adroddiad yn cydnabod bod llywodraethu wedi gwella ers yr arolwg diwethaf, ynghyd â rheolaeth ariannol dda.
Mae'r adroddiad yn cofnodi cryfderau mewn sawl maes ac yn cydnabod rhai enghreifftiau arloesol o arfer da, ond mae meysydd i'w gwella hefyd.
Un o'r rhain oedd bod angen i'r heddlu sicrhau ei fod yn ateb galwadau brys yn ddigon cyflym.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "'Da ni'n cydnabod bod gan bob un o'r galwadau hyn rywun y tu ôl iddyn nhw a bod angen gwella'r cyflymder 'da ni'n ateb eu galwadau nhw. Mae hon yn her y mae llawer o heddluoedd yn ei hwynebu. 'Da ni wedi ymrwymo gwella ein gwasanaeth ni i'r cyhoedd.
"Tynnwyd sylw at ein gwaith arloesol ni yn yr ystafell reoli o gyflogi myfyrwyr Gradd Plismona yn ystod gwyliau. Roedd yn teimlo ei fod yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau Gogledd Cymru wrth hefyd helpu hefo'u hastudiaethau yn y brifysgol.
"'Da ni hefyd yn y broses o fuddsoddi adnoddau sylweddol er mwyn gwella ein seilwaith TG sy'n rhan o'n cynllunio ariannol tymor canolig ni.
"Byddwn ni hefyd yn parhau buddsoddi mewn datblygu ein gweithlu, a a gafodd ei gydnabod fel Da gan HMICFRS. Bydd y ddau faes hwn yn rhoi llwyfan cadarn er mwyn mynd i'r afael hefo'r heriau sy'n ein hwynebu ni ar gyfer y dyfodol."
Maes arall i'w wella oedd gwarchod pobl fregus.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Mae diogelu pobl fregus yn flaenoriaeth i ni. Dwi'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod y ffaith ein bod ni wedi buddsoddi mewn rôl llawn amser sydd wedi ymroi gwella ein hymateb ni i stelcian. Mae sawl mesur arall wedi'u rhoi ar waith er mwyn gwella ein hymateb ni yn y maes hwn.
"Mae nifer y Gorchmynion Gwarchod Trais Domestig 'da ni wedi gwneud cais amdanyn nhw wedi cynyddu hefyd, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
"'Da ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud, a byddwn ni'n parhau buddsoddi yn y maes gwaith hwn. 'Da ni'n barod wedi gwneud newidiadau sylweddol ac yn gweithio ar ddatblygu offer adrodd newydd. Cawson nhw hefyd eu cydnabod yn yr adroddiad fel ein rhoi ni "mewn sefyllfa ddelfrydol i weithredu er mwyn gwella'r maes hwn".
Gwnaeth yr adroddiad gydnabod ein bod yn ymateb i ddigwyddiadau ac ymchwilio i droseddau mewn modd amserol gan fwyaf.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Mae'r adroddiad a ffynonellau craffu eraill yn ein galluogi ni gadarnhau ein bod ni'n buddsoddi ein hamser a'n hadnoddau ni'n y meysydd cywir er mwyn gwneud gwelliannau.
"Mae yna feysydd hefyd lle gallwn ni geisio gwneud gwelliannau hefo'r hyn sydd yn digwydd yn barod mewn sawl agwedd a gafodd ei nodi cyn yr Arolwg."