Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae siopleidr mynych wedi’i garcharu ar ôl dwyn o siop ar Stryd Fawr Bangor.
Mi ymddangosodd Kevin Jones, o Ffordd y Castell, Maesgeirchen, Bangor yn Llys Ynadon Caernarfon ar 5 Rhagfyr ar ôl cyfaddef lladrata.
Mi aeth y dyn 40 oed i Boots ar 28 Tachwedd, a dwyn nifer o anrhegion, gwerth £125.
Mi gafodd ei garcharu am 14 wythnos. Mi gafodd hefyd orchymyn i dalu’n ôl cost yr eitemau wnaeth o ddwyn.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: “Nid ydy lladrad o siopau yn ‘drosedd heb ddioddefwr’, ac mae’n cael effaith wirioneddol ar fusnesau a staff.
“Mi wnawn ni barhau gweithio’n galed er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell, a gwarchod y rhai sy’n gweithio yn y sector manwerthu.”