Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio pobl rhag prynu nwyddau ffug neu wedi’u dwyn sydd ar werth yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Mae swyddogion yn cymell bod pobl yn pwyllo cyn prynu , ac os ydy’r pris yn rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debygol o fod.
Mae’n drosedd i unrhyw un werthu neu gynnig prynu nwyddau maen nhw’n gwybod eu bod wedi’u dwyn.
Cyn prynu rhywbeth ar-lein, ‘da ni’n gofyn wrthoch chi oedi a meddwl cyn prynu. Mae’r mathau mwyaf cyffredin o dwyll siopa ar-lein yn cynnwys:
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru: “’Da ni’n deall bod pobl yn chwilio am fargen oherwydd bod costau byw yn codi, ac mae pobl yn ceisio arbed arian lle gallan nhw.
“Mae’r Nadolig yn adeg drud o’r flwyddyn, a ‘da ni’n gwybod bod troseddwyr yn defnyddio hyn fel cyfle i gamfanteisio ar bobl, a’u twyllo i roi eu harian iddyn nhw.
“’Da ni’n gofyn i’r gymuned oedi a meddwl pan maen nhw’n prynu rhywbeth, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Os nad mân-werthwr sy’n ei werthu, ac mae’n ymddangos fel ei fod yn rhad iawn, mae’n debygol bod ganddo gefndir ddylech chi fod yn amheus ohono a peidiwch â’i brynu.
“Sicrhewch eich bod yn gwybod gan bwy ac o le ‘da chi’n prynu, oherwydd gallai rhai o’r nwyddau ar gynnig ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r gwefannau gwerthu fod yn ffug neu wedi’u dwyn. Os yn bosib, defnyddiwch gerdyn credyd er mwyn siopa ar-lein, gan bod hyn yn cynnig mwy o ddiogelwch os wnaiff rhywbeth fynd o’i le.
“Da ni eisiau i bobl wneud y gorau o gynigion y mân-werthwyr gwirioneddol sydd ar gael, ond byddwch yn ofalus, mae’n hawdd prynu ar frys er mwyn trio cael bargen cyn gynted â phosib, ond ‘da ni eisiau i bobl ddisgwyl am funud, ac oedi a meddwl cyn prynu.
“Mae prynu eitemau sydd yn y pen draw wedi’u dwyn yn annog siopladrad ac yn gostus i fân-werthwyr, sy’n achosi cynnydd ym mhrisiau’r nwyddau go iawn mewn siopau.”
Mae rhagor o gyngor ynglŷn â siopa ar-lein ar gael ar: Siopa Ar-lein | Heddlu Gogledd Cymru