Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
‘Ni ddylech gael eich twyllo os ydych yn mynd tu ôl i’r llyw o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, rydych mewn perygl o gael dirwy, colli’ch trwydded neu dderbyn dedfryd o garchar. Rydych yn peryglu bywydau hefyd,’ – dyna’r neges sy’n cael ei chyhoeddi gan Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt baratoi i lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau dros gyfnod y Nadolig 2024.
Mae’r ymgyrch #OpLimit mis o hyd yn erbyn gyrru o dan ddylanwad yn dechrau ar Ddydd Sul, 1 Rhagfyr a bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio tactegau cudd-wybodaeth a gwybodaeth leol o lecynnau sydd ag enw drwg i ganfod pobl sy’n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol dros gyfnod yr Ŵyl.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ynghyd â hysbysebu digidol i ledaenu’r neges am effaith yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau. Bydd hyn yn cynnwys fan hysbysebu ddigidol a fydd yn teithio ar draws Gogledd Cymru ar ddyddiau allweddol drwy gydol mis Rhagfyr, a hysbysfyrddau ddigidol mewn canolfannau siopa ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam a fydd yn dangos negeseuon drwy gydol yr ymgyrch. Mae posteri hefyd yn cael eu dosbarthu o amgylch tafarndai, ysgolion uwchradd a cholegau.
Wedi’i arwain gan Uned Troseddau’r Ffyrdd, bydd swyddogion o’r timau i gyd allan – gan gynnwys plismona lleol, yr heddlu arfog ynghyd â’r Heddlu Gwirfoddol – ddydd a nos yn targedu’r rhai sy’n peryglu eu hunain a phobl eraill.
“Cnocio ar ddrws rhywun i ddweud bod un annwyl iddynt wedi cael eu lladd oherwydd bod gyrrwr wedi gwneud penderfyniad hunanol i yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yw’r rhan waethaf o fy swydd,” meddai’r Rhingyll Emma Birrell o Uned Troseddau’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru.
“Does dim geiriau i ddisgrifio’r difrod sy’n cael ei achosi gan yrru o dan ddylanwad a dyma pam rydym yn teimlo’n angerddol am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Wrth i ddathliadau’r Ŵyl gychwyn nid yn unig yr rydym yn atgoffa gyrwyr o’r peryglon ond rydym hefyd yn amlygu’r canlyniadau o yrru tra o dan ddylanwad.
“Gall unrhyw un sy’n cael ei ddal wynebu 12-18 mis o waharddiad a hoffem i bobl feddwl o ddifri sut y byddai hyn yn effeithio eich bywyd; gyrru i’r gwaith neu goleg neu fynd â phlant i’r ysgol, cymdeithasu neu ymweld â theulu. Mae effaith colli eich trwydded yn enfawr. Gallwch hefyd golli eich gyrfa a’ch cartref. Yn waeth na hynny, mi allech anafu neu ladd eich hun neu rywun arall. Nid yw hi’n werth mentro.
“Mi fydd timau yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru dan ddylanwad wybod y byddwn allan yn disgwyl amdanynt – plis peidiwch a meddwl bod natur y ffyrdd wledig yn eich gwarchod. Rydym yn targedu’r rhai sy’n peryglu bywydau drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig ar adeg y Nadolig. Rhwng Ionawr a Hydref eleni mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud 691 o arestiadau am yfed a gyrru a 886 o arestiadau am yrru o dan ddylanwad cyffuriau. Does dim lle i guddio.
“Mae swyddogion yn wyliadwrus drwy’r flwyddyn ond ar yr adeg hon o’r flwyddyn byddant yn eich dal a byddwch yn gorfod wynebu’r canlyniadau. Rhaid i yrwyr sylweddoli y byddant yn wynebu'r un gosb pa bynnag adeg o’r dydd yw hi. Nid yw mynd i’r gwaith neu fynd â’r plant i’r ysgol yn esgus, byddant yn wynebu'r un gosb â rhywun sydd wedi bod i’r dafarn ac yn gyrru yn y nos.
Fe ychwanegodd: “Mae ein neges yn un syml; os ydych yn mynd allan ac yn gwybod y byddwch yn yfed, sicrhewch eich bod wedi gwneud trefniadau i fynd adref yn ddiogel heb yrru.
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r ffyrdd i bawb a byddwn yn parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu bywydau pobl eraill. Peidiwch ag yfed o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau – mae hyd yn oed cyfanswm fach yn gallu effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Peidiwch a gadael i’ch teulu ddioddef oherwydd eich camgymeriad chi.
“Am y deg mis cyntaf eleni rydym wedi gwneud dros 1,570 o arestiadau. Plis helpwch ni i ddiogelu’r ffyrdd drwy gydol y flwyddyn. Mae gwybodaeth gan y cyhoedd yn hanfodol i wneud y gwaith yma, felly os ydych yn gwybod am rywun sy’n gyrru dan ddylanwad, plis gwnewch y peth iawn a riportiwch nhw i ni drwy ffonio 101”
Nodiadau:
Mae’r heddlu’n gweithredu yn erbyn gyrrwyr sy’n gyrrau o dan ddylanwad drwy gydol y flwyddyn. Dylai unrhyw un sydd â pryderon am rywun y maent yn credu o fod yn gyrru tra o dan ddylanwad gysylltu â’r heddlu drwy’r wefan neu ffonio 101 (999 bob amser os bydd bywyd mewn perygl) neu cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar on 0800 555 111.