Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi ymunodd SCCH Andrew Owen efo Heddlu Gogledd Cymru yn 2022 er mwyn dilyn ei nod o wneud cyfraniad cadarnhaol i'w gymuned.
Cyn hynny, roedd yr aelod o staff yr heddlu 32 oed yn gweithio i'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol, yn helpu pobl yn ôl i ymarfer corff yn dilyn llawdriniaeth neu rai efo cyflyrau iechyd.
Mi wnaeth ddarganfod pa mor werth chweil oedd ei allu i helpu pobl, ac fe aeth ar drywydd hynny drwy ymuno efo'r heddlu.
Ers bod yn SCCH, mae'r tad i bedwar yn fuan wedi blaenoriaethu meithrin perthynas efo trigolion, busnesau lleol ac asiantaethau partner, sydd wedi ei helpu er mwyn mynd i'r afael efo materion cymunedol.
Dywedodd Andrew, siaradwr Cymraeg rhugl o Gaernarfon: "Dwi'n un sy'n dda efo pobl, felly mi roeddwn i'n gwybod fyddai gweithio o fewn fy nghymuned fy hun yn dod yn naturiol i mi.
"Dwi'n gwneud ymdrech i fod yn weladwy pan fydda i ar sifft er mwyn siarad efo unrhyw un am bryderon sydd ganddyn nhw, neu hyd yn oed sgwrsio am sut allai'r heddlu helpu mentrau lleol, fel gwneud cais am arian PACT."
O fewn dwy flynedd o wneud y swydd, mi wnaeth ei gyfraniad at blismona drwy ei waith rhagweithiol wrth nodi a dal troseddwyr yng Nghaernarfon a'r cyffiniau arwain at wobr cydnabyddiaeth yr heddlu, SCCH y Flwyddyn.
Mi ychwanegodd Andrew: "Mae pobl sy'n cyflawni troseddau dro ar ôl tro yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol. Drwy fod allan ar y strydoedd bob dydd, mi alla i weld pa mor ddiflas ydy o i siopwyr a phreswylwyr.
"Y rhai dwi'n eu targedu ydy'r rhai sy'n cyflawni lladradau, a phobl sy'n cael eu galw'n ôl i'r carchar.
"Dwi wir yn teimlo bod y gwaith hwn nid yn unig yn cyfrannu at wneud Caernarfon yn lle mwy diogel a chroesawgar i breswylwyr, ond fy nheulu innau hefyd.
"Mae hyn yn ei dro yn rhyddhau fy nghydweithwyr heddlu er mwyn ymdrin mwy efo pobl sydd wir ein hangen ni."
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn gweithio ochr yn ochr efo swyddogion heddlu er mwyn ymateb i ddigwyddiadau yn eu hardaloedd lleol, ac yn defnyddio eu gwybodaeth leol helaeth er mwyn helpu ymchwiliadau'r heddlu.
Gan fyfyrio ar ei yrfa yn yr heddlu hyd yn hyn, ychwanegodd: "Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ac mi allwch chi fod yn delio efo unrhyw beth, o fân ymddygiad gwrthgymdeithasol i ddigwyddiadau difrifol iawn.
"Dwi'n arbennig o hoff o fod allan ar y rheng flaen, yng nghalon y gymuned yn ddyddiol, yn gwneud gwahaniaeth ac yn cyfrannu at fy nghymuned leol, yn hytrach na bod yn sownd y tu mewn wrth ddesg.
"Ar y llaw arall, dwi hefyd wedi cael profiad o ddigwyddiadau anodd a thrawmatig na fyddai'r rhan fwyaf o bobl byth yn eu dychmygu. Dwi wedi gorfod dysgu rhoi'r pethau hyn i gefn fy meddwl a cheisio symud ymlaen efo pob sifft newydd.
"Gallai hyn fod yn anodd, ond mae plismona yn ymdrech tîm, ac mae rôl pawb yn bwysig pe bai chi'n aelod o staff neu'n swyddog.
"Dwi'n gweithio efo tîm cefnogol yn ardal Gogledd Gwynedd, a ‘da ni gyd yn tynnu at ein gilydd ac yn gofalu am les ein gilydd."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am bobl sy'n adlewyrchu'r cymunedau ‘da ni'n eu gwasanaethu, gallai ddod â phrofiadau amrywiol ac sy'n barod i warchod y rhai sydd ei angen fwyaf. Os oes gynno chi'r hyn sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth, gwnewch gais i fod yn SCCH ar ein gwefan ni heddiw.