Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 20 o bobl wedi’u harestio a gwerth dros £21,000 o gyffuriau wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Cymru’r wythnos diwethaf, fel rhan o ymgyrch plismona cenedlaethol.
Mi ddigwyddodd fel rhan o Wythnos Dwysau Llinellau Cyffuriau, sy’n targedu gwerthwyr cyffuriau a gangiau Llinellau Cyffuriau sy’n gweithredu yn ein cymunedau.
Mi gafodd ei gynnal o ddydd Llun 25 Tachwedd hyd at ddydd Sul, 1 Rhagfyr, ac mi welodd swm sylweddol o arian parod yn cael ei hatafaelu, yn ogystal â diogelu plant ac oedolion bregus.
Llinellau Cyffuriau ydy’r enw sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio gwerthu cyffuriau pan mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi cyffuriau o’r dinasoedd mawrion i drefi ac ardaloedd cefn gwlad.
Mae’r linellau yn cael eu rheoli gan “ddalwyr llinell” ac mae’r rhedwyr, sy’n aml yn bobl fregus, yn danfon y cyffuriau.
Mae’r system dosbarthu cyffuriau yn arwain at drais difrifol a chamfanteisio, ac mae eu gweithgareddau yn ymwneud â chamfanteisio a thrais yn y pen draw, sy’n arwain at droseddau ehangach.
Mae’r wythnos diweddaraf o weithredu wedi arwain at:
Yn ystod yr wythnos, mi wnaeth swyddogion weithio ochr yn ochr â chydweithwyr Heddlu Glannau’r Mers, yr Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig (BTP) ac asiantaethau partner, gan gynnwys cynghorau a chymdeithasau tai er mwyn dymchwel a tharfu ar gangiau troseddol.
Mi welodd yr ymgyrch ymyrraeth ac arestiadau targedol, cyflawniad gwarantau chwilio, ymgysylltiad ymwybyddiaeth ar raddfa fawr, ymweliadau diogelu â’r rhai bregus, ac ymgyrchoedd ar y cyd. Mi wnaeth un o'r rhain ddigwydd yn ardal Gwynedd yn ddiweddarach yn y mis, gyda chefnogaeth Prosiect Medusa Heddlu Glannau’r Mersi.
Mi wnaeth stopio a chwilio cadarnhaol arwain at adfer ffonau gwerthu cyffuriau, arian parod a chyffuriau, gan gynnwys heroin a chrac cocên, tra bod chwilio eiddo preswyl wedi arwain at atafaeliad pellach o gyffuriau ac arian parod, a nifer o arestiadau o ganlyniad.
Mae’n dilyn nifer o ymyraethau diweddar ledled yr heddlu, fel rhan o ymdrech barhaus i ymdrin ag unigolion a grwpiau sy’n ymwneud â Llinellau Cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Byron o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae gwerthu cyffuriau’n wenwynig.
“Dydy o ddim yn gallu gweithredu heb drais na chamfanteisio, ac mae’n effeithio ar bawb yn ein cymunedau yn y pen draw, gan ei fod yn gyrru troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bob lefel.
“’Da ni’n ymrwymo i warchod y cyhoedd ac ymdrin â’r bygythiad sy’n cael ei gyflwyno gan unigolion a grwpiau sy’n ymwneud â’r math yma o droseddoldeb.
“Ein nod ydy creu amgylchedd digroeso i’r rhai sydd eisiau achosi niwed i ni, ac mi fuaswn i’n annog pawb yn y gymuned i’n helpu ni yn ein hymgyrch i’w targedu a gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU, efo’n gilydd.”
Mi nododd yr wythnos lansiad ymgyrch rhanbarthol “Eyes Open”, sydd efo’r nod o godi ymwybyddiaeth o fygythiad Llinellau Cyffuriau ac arwyddion camfanteisio ymhlith plant a phobl fregus.
Mae ymateb Heddlu Gogledd Cymru i Linellau Cyffuriau hefyd yn rhan o fenter ehangach er mwyn trechu Trosedd Difrifol a Threfnedig o fewn ei gymunedau, o dan Prosiect Draig.
Mae arwyddion cyflenwi cyffuriau yn weladwy yn y gymuned, gan gynnwys patrymau amheus o weithgareddau, ymwelwyr rheolaidd i leoliadau a chyfeiriadau penodol, a chyfoeth heb eglurhad.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag arwyddion camfanteisio, ewch ar: https://eyes-open.co.uk