Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Ynys Môn yn cynyddu ymdrechion er mwyn gwarchod dioddefwyr cam-drin domestig dros gyfnod y Nadolig.
Nod yr ymgyrch ydy diogelu dioddefwyr ac atal troseddwyr drwy gydol mis Rhagfyr, oherwydd bod ystadegau yn dangos bod digwyddiadau cam-drin domestig yn tueddu codi yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mi fydd yr ymgyrch yn gweld dau swyddog ychwanegol yn cyflawni ymweliadau diogelu ychwanegol â’r rhai sydd wedi’u nodi o fod mewn risg uchel o ddioddef cam-drin domestig.
Dywedodd y Rhingyll Ardal, Christopher Burrow: “Yn hanesyddol, yn anffodus, mae’r nifer o ddigwyddiadau cam-drin domestig yn cynyddu dros gyfnod y Nadolig.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n saff. Mi fydd cyflwyno swyddogion penodol yn ystod cyfnod y Nadolig yn sicrhau bod gynno ni adnoddau ychwanegol er mwyn ymateb yn effeithiol i adroddiadau o gam-drin domestig a rhoi gwasanaeth rhagorol i ddioddefwyr.”
Mi fydd y swyddogion penodol yn cael eu hanfon i ddigwyddiadau cam-drin domestig yn gyntaf, er mwyn rhoi gwasanaeth cyson a phroffesiynol i ddioddefwyr.
Mi fydd eu cydweithwyr yna’n cymryd camau cadarn yn erbyn y troseddwyr.
Mae’r dull hwn yn caniatáu cynnal ymholiadau’n fwy cyflym, ac yn arwain at ymchwiliad mwy effeithlon yn y pen draw, efo’r gobaith o arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn fwy cyflym.
Ar ben hyn, mi fydd y swyddogion ychwanegol yn ailymweld â chyn ddioddefwyr achosion cam-drin domestig, er mwyn gweld os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ynglŷn â’r troseddwyr yn glynu at amodau eu mechnïaeth neu orchmynion atal cam-drin domestig (DVPO). Mi fydd y swyddogion yn ymdrin ag unrhyw achosion torri amodau.
Ychwanegodd y Rhingyll Burrow: “Mi allai’r dull rhagweithiol hwn o gyflawni gwiriadau rheolaidd o’r rhai sydd ar fechnïaeth neu o dan sylw gorchmynion atal achosion cam-drin domestig pellach.
“Ni fydd cam-drin domestig yn cael ei oddef ar unrhyw ffurf. Mi fuaswn i’n annog unrhyw un sy’n cael profiad o gam-drin domestig i ofyn am help. ‘Da chi ddim ar eich pen eich hun. Mi wnawn ni wrando ac ymchwilio’n drylwyr i be’ ‘da chi’n riportio i ni.
“’Da ni’n ymrwymo rhoi cymorth i ddioddefwyr o gam-drin domestig drwy gydol yr amser, ac nid yn unig dros y Nadolig. Mi fydd yr adnoddau ychwanegol yn benodol ar gyfer cam-drin domestig yn parhau.”
Os ‘da chi neu rhywun ‘da chi’n adnabod yn cael profiad o gam-drin domestig, riportiwch i’r heddlu neu cysylltwch efo Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800.
Ymgyrch Unite ydy’n hymateb ni i drechu trais yn erbyn merched a genethod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru