Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch plismona er mwyn trechu trais difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled Gogledd Cymru.
Mi lansiwyd Ymgyrch Restore ym mis Ebrill eleni, efo patrolau targedol mewn ardaloedd lle ‘roedd digwyddiadau o’r math yma o droseddau yn uwch.
Mi hwyluswyd y gallu gweithredol uwch hyn drwy fuddsoddiad gan y Swyddfa Gartref, fel rhan o’i fenter “Ymateb i Lecynnau”.
Ers y lansiad, mae dros 3,642 o oriau patrolau amlwg ychwanegol wedi’u cyflawni mewn 28 ardal ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys: Caergybi, Caernarfon, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog, Llandudno, y Rhyl, Treffynnon, y Fflint, Shotton, yn ogystal â threfi a phentrefi o fewn Sir Wrecsam.
Mae ein swyddogion wedi defnyddio grymoedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar 44 achlysur yn ystod y cyfnod hwn, drwy gyhoeddi 23 cerdyn melyn a 21 Gorchymyn Datrysiad Cymunedol i’r unigolion o dan sylw.
Mi gyflawnwyd dros 100 o weithrediadau Stopio a Chwilio gan swyddogion wedi’u lleoli fel rhan o batrolau plismona llecynnau.
Dywedodd y Rhingyll Alyn Smith: “Fel heddlu, ‘da ni’n cydnabod bod gwaith dal i’w wneud yn targedu troseddwyr treisgar a’r rhai sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol gan beri gofid yn ein cymunedau.
“Mae dod â’r unigolion hyn o flaen eu gwell yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac mae ein swyddogion yn gwbl ymroddgar i’r nod hwn.
“Yn ôl y data diweddaraf, mae patrolau Ymgyrch Restore wedi cael effaith sylweddol yn cyfyngu effaith y troseddau hyn o fewn Gogledd Cymru.
“Fel rhan o’n gwaith ymgysylltu cymunedol, sy’n gwbl unol â’n blaenoriaethau plismona, ‘da ni’n cydnabod bod y gwaith hyn o fudd i breswylwyr a’r perchnogion busnesau sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.
“Yn ôl y sôn, mae perchnogion siopau wedi dweud wrth ein swyddogion bod ein patrolau amlwg wedi atal digwyddiadau efo unigolion penodol rhag gwaethygu o fewn eu heiddo.
“Mae presenoldeb plismona uwch wedi gweithio’n ataliol yn y sefyllfaoedd hynny, ac wedi lleihau risg i staff ac aelodau o'r cyhoedd.
“Mae swyddogion wedi cadw at ddull cadarn pan yn ymdrin â phobl ifanc yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ‘da ni’n gwybod drwy sgyrsiau efo preswylwyr bod ein patrolau ar droed yn cael eu croesawu yn eu cymdogaethau.
“Mae’r math yma o adborth wir yn cadarnhau’r gwaith sy’n cael ei gyflawni, ac mi wnawn ni barhau arolygu’r data troseddau a digwyddiadau o’r ardaloedd penodol, er mwyn sicrhau bod ein hymateb gweithredol bob tro’n briodol ac yn gyfatebol.”
Wrth i 2025 agosáu, mi fydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd ynglŷn ag Ymgyrch Restore ar ein sianelau newyddion a chyfryngau cymdeithasol.