Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae #AdnewydduRhyl, menter partneriaeth sydd ar y gweill yn y Rhyl, wedi gweld rhai canlyniadau rhagorol fydd yn darparu’r sylfaeni ar gyfer adfywio’r ardal.
Mae Hel, Dal, Cryfhau yn strategaeth aml-asiantaeth efo’r nod o drawsnewid y gymuned yn un mwy llewyrchus lle fydd pobl wrth eu boddau’n byw, gweithio ac ymweld, ac yn gymuned sy’n llai agored o gael ei ddefnyddio gan grwpiau trosedd trefnedig a Llinellau Cyffuriau.
Yng Ngogledd Cymru, mi gafodd y fenter ei lansio ym mis Ebrill eleni yn ward Gorllewin y Rhyl, un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad. Mae’r fenter tri cham yn defnyddio cyfuniad o ymgyrchoedd heddlu targedol amlwg iawn, a thactegau plismona cudd, ochr yn ochr â gweithgaredd a help partneriaid, a mewnbwn gan y trigolion, er mwyn gwarchod cymunedau ac atal grwpiau trosedd trefnedig rhag gweithredu.
Erbyn hyn, mae data wedi’i gasglu, sy’n dangos bod #AdnewydduRhyl wedi arwain at ostyngiad o 14% mewn troseddau sydd wedi’u cofnodi. Mae’r effaith yn cynnwys gweithredu 35 gwarant, cyflawni dros 180 arést am droseddau sy’n cynnwys cyffuriau, trefn gyhoeddus, byrgleriaeth a llosgi bwriadol, ac awdurdodi 3 hysbysiad cau eiddo ynglŷn â materion fel cogio, ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwerthu cyffuriau.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Rhanbarthol, Owain Llewelyn: “Mae’r Rhyl yn dref gwych, a lle bynnag ewch chi a sôn am y Rhyl, mi wna nhw adrodd hanesion plentyndod o dyfu fyny yma neu wyliau.
“Fel llawer o drefi ar lan y môr, mae wedi cael ei phroblemau, cynnydd mewn tlodi a throsedd, felly pan ‘roeddem ni’n edrych ar leoliadau ar gyfer Hel, Dal, Cryfhau, drwy siarad efo partneriaid a’r gymuned, ward Gorllewin y Rhyl oedd y dewis amlwg.
“Mae’r cam “hel” ar fin dod i ben, a ‘dwi’n hapus iawn, iawn efo’i ganlyniadau, a beth mae’r bartneriaeth wedi’i gyflawni.
Mi aeth ymlaen: “’Da ni wedi bod yn gwbl glir mai bwriad hyn ydy er lles y gymuned, drwy ymwneud â’r gymuned.
“Felly, ‘da ni wedi bod yn ffodus iawn bod gynno ni help a chyfraniad gan y gymuned leol, yn ymgysylltu efo’n timau ar y stryd...er mwyn cael gwybod yn iawn beth ydy blaenoriaethau lleol yr ardal.
“Y cam nesaf ydy symud ymlaen at “ddal”, ac mae hwn yn brosiect tymor hir. ‘Dwi’n meddwl mai’r pwysigrwydd ydy ynglŷn â dealltwriaeth o beth sydd ar y gweill yn y dref yn barod, sy’n cael ei gyflawni gan ein partneriaid ni, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cydlynu’r holl weithgareddau er mwyn manteisio i’r eithaf pa mor effeithiol ydy hynny.”
Mi ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin â’r Rhyl yr wythnos diwethaf, er mwyn siarad efo’r swyddogion sy’n ymwneud â’r ymgyrch, a chlywed am ei effaith a gweld yr ardaloedd sydd wedi elwa o waith y strategaeth.
Mi aeth y CHTh am dro o amgylch canol dref y Rhyl, yng nghwmni’r Rhingyll Peter Griffiths a’r Cwnstabl Declan Hold. Yn cychwyn o’r Orsaf Heddlu, mi ymwelodd y grŵp â’r ardal seddi tu ôl i Neuadd y Dref, Stryd y Farchnad, y Stryd Fawr, y Ganolfan White Rose, y Promenâd, a Stryd y Dŵr. Tra yn y ganolfan siopa, mi ymwelodd y grŵp â’r hyb “Blossom and Bloom”, er mwyn siarad efo’r sefydlwr, Vicky Welsam a’i thîm. Mae “Blossom and Bloom” yn elusen sy’n cael ei gwerthfawrogi’n fawr, sy’n gwasanaethu mamau newydd yn ardal y Rhyl, drwy gynnig help iddyn nhw, eu babanod a’u plant ifanc nhw’n ystod cyfnod hollbwysig yn eu bywydau.
Dywedodd y Rhingyll Peter Griffiths, o’r tîm #AdnewydduRhyl: “Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cymryd diogelwch ein cymunedau ni wirioneddol o ddifri. Mae’r tîm Hel, Dal, Cryfhau wedi bod yn targedu unigolion sy’n achosi’r niwed mwyaf i’r gymuned yn y Rhyl, ac mi wnawn ni barhau efo hyn wrth i ni symud i’r camau Dal a Chryfhau. ‘Da ni wedi gweithio’n agos iawn efo’n partneriaid er mwyn helpu gwella’r ardal a helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”
Dywedodd CHTh Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mi ‘roedd yn bleser cyfarfod y tîm Hel, Dal, Cryfhau yn y Rhyl heddiw, a gweld yr effaith mae’r strategaeth yn ei gael ar y dref yn y cnawd. Mae’r gostyngiad yn y nifer o droseddau a’r data sylweddol ynglŷn â’r nifer o arestiadau yn arddangos y dylanwad mae Hel, Dal, Cryfhau yn ei gael ar y dref.
“Ond ‘da ni’n gwybod bod mwy i’w wneud er mwyn trechu trosedd a gwneud yn siŵr bod y dref yn lle saff ar gyfer yr holl breswylwyr, yn unol â fy nghynllun ar gyfer trechu trosedd yng Ngogledd Cymru. Dyna pam ei fod yn bwysig parhau’r ymdrechion fel symudwn ni ‘mlaen i gam nesaf y strategaeth. Dwi’n canmol y swyddogion sy’n gysylltiedig â’r strategaeth hyd yn hyn, ac ymroddiad a chydweithrediad Cyngor Sir Ddinbych a’r rhanddeiliaid eraill, a ‘dwi’n edrych ymlaen at weld cam nesaf Dal, Hel, Cryfhau ar waith.”
Darllenwch fwy am Hel, Dal, Cryfhau yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gogledd-cymru/ardaloedd/amdanom-ni/amdanom-ni/clear-hold-build/