Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 55 oed heddiw wedi’i garcharu ar ôl cyflawni gweithred rhywiol arno ei hun wrth yrru heibio plant yn cerdded i’r ysgol ac oddi yno. .
Mi ddigwyddodd y troseddau yn siroedd Wrecsam a’r Fflint yn ystod mis Mehefin a mis Hydref eleni.
Mi gyfaddefodd Chrisopher Deakin, o Henley Close, Croesoswallt ddau drosedd o ymwneud â gweithgaredd rhywiol ym mhresenoldeb plant, ac mi ymddangosodd yn Llys y Goron, yr Wyddgrug ar gyfer dedfryd heddiw (dydd Llun, 23 Rhagfyr).
Mi gafodd ei garcharu am 20 mis ac mae’n rhaid iddo gofrestru efo’r heddlu fel troseddwr rhywiol am y 10 mlynedd nesaf.
Mi gafodd hefyd bedwar gorchymyn atal 10 mlynedd o hyd er mwyn gwarchod y dioddefwyr, a gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd, efo amodau i beidio â loetran o gwmpas unrhyw barc, ysgol na llefydd mae merched ifanc yn ymgynnull.
Ar 10 Mehefin, mi roedd dwy ffrind ysgol 11 oed yn cerdded i’r ysgol ar hyd y B5097 rhwng Penycae a Rhiwabon yn Wrecsam, pan welon nhw Deakin yn eu gwylio, wrth gyflawni gweithred rhywiol arno ei hun wrth yrru heibio iddyn nhw’n araf mewn fan las.
Mi gafodd Deakin ei arestio’r diwrnod canlynol ac mi gafodd fechnïaeth tra ‘roedd ymholiadau pellach ar y gweill.
Ar 9 Hydref, mi roedd dwy ferch arall yn cerdded adref o’r ysgol ym Mhenarlâg pan welon nhw Deakin yn cyflawni gweithred rhywiol arno ei hun, wrth yrru heibio ac edrych ar blant.
Y bore canlynol, mi riportiodd un o’r merched ei bod wedi gweld yr un fan ym Mhenarlâg, yn mynd tuag at yr ysgol gynradd.
Mi gafodd ei arestio’r diwrnod hwnnw ac yna mi gafodd ei remandio i’r ddalfa.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Andrew Vaughan: “Mae ymddygiad Deakin drwy aflonyddu ar blant ysgol wrth iddyn nhw gerdded yn ôl ac ymlaen i'r ysgol er ei foddhad ei hun yn peri pryder mawr.
“’Dwi’n cymeradwyo’r bedair dioddefwr a’u teuluoedd am eu dewrder drwy gydol ein hymchwiliad ni, sydd wedi ein caniatáu ni ddwyn Deakin yn atebol.
“Mae canlyniad heddiw yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni o ddod â throseddwyr rhywiol o flaen eu gwell, a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu clywed a’u diogelu.”