Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi’i garcharu ar ôl trywanu cyn gymar ei ffrind.
Mi ymddangosodd Kevin Marshall, o Burnside Court, Dundee, a Vari Heeps, 47 oed o Rodfa Nimrod, Caergybi yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Mawrth, 17 Rhagfyr, ar ôl cyfaddef byrgleriaeth waethygedig.
Mi gyfaddefodd Marshall hefyd i glwyfo gyda bwriad a bod mewn â chyllell yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.
Ar 13 Mehefin 2024, mi dresmasodd Marshall a Heeps, ynghyd â Lisa Stewart, 39 oed, yng nghartref cyn gymar Stewart yng Nghaergybi wrth iddo gysgu yn ei wely.
Mi ddeffrodd y dyn i glywed y tri ffrind yn gweiddi tu allan o gwmpas 3am, ac mi ffoniodd yr heddlu ynglŷn â’i bryderon.
Yn ystod yr alwad, mi dorrodd ei ffenest, a munudau yn ddiweddarach mi orfodwyd ei ddrws ffrynt yn agored.
Mi aeth Marshall, yn dal cyllell, a Heeps, yn cario potel wydr, i’w gartref ynghyd â Stewart, a ymosododd arno.
Mi waethygodd y sefyllfa pan wnaeth Marshall drywanu’r dyn yn ei ysgwydd a’i fraich, cyn cymryd ei waled a gadael y tŷ.
Mi redodd y dyn i’r tu allan, lle wnaeth o gyfarfod yr heddlu oedd newydd gyrraedd.
Mi gafodd Kevin Marshall ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis.
Mi dderbyniodd Vari Heeps ddedfryd 12 mis wedi’i ohirio.
Mi gafodd Heeps a Marshall orchmynion atal, yn eu hatal rhag cysylltu â’r dioddefwr, yn para 10 mlynedd.
Mi gyfaddefodd Lisa Stewart, o’r Hen Iard Goed, Caergybi o ymwneud â’r digwyddiad, ac mae wedi’i remandio ymhellach i’r ddalfa ar gyfer derbyn dedfryd ym mis Ionawr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Will Leon-Portillo: “Mae cario cyllell yn hollol annerbyniol a ni wnawn ei oddef.
“Mae’n ffodus na wnaeth gweithrediadau Marshall achosi anafiadau mwy difrifol, a fuasai wedi bod yn hawdd o dan yr amgylchiadau.
“Mae byrgleriaethau yn cael effeithiau sylweddol ar unigolion, ond hefyd ar y cymunedau lle maen nhw’n digwydd. Dylai pawb deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, heb ofni bod rhywun am darfu arnyn nhw.”