Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
31/12/2024:
Mae swyddog o Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei gydnabod yn rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Brenin.
Mae Dave Smith, Rhingyll Plismona Lleol yng Ngogledd Sir y Fflint, sydd wedi'i leoli ar Lannau Dyfrdwy, wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r gymuned yng ngogledd Cymru, ac i elusennau.
Mae'r Rhingyll Smith, 38, sy'n byw ym Mrychdyn, Sir y Fflint hefo'i deulu wedi treulio 15 mlynedd mewn plismona.
Sefydlodd CPD Heddlu Wrecsam hefo'r bwriad o greu cydlyniad rhwng yr heddlu a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, wrth godi arian ar gyfer elusennau lleol, wrth i swyddogion sydd oddi ar ddyletswydd chwarae gemau yn erbyn amrywiaeth o wrthwynebwyr.
Ers ffurfio yn gynnar yn 2022, mae'r Rhingyll Smith a'r tîm wedi codi ychydig dros £48,000 ar gyfer achosion ac elusennau teilwng ac wedi derbyn sawl rhodd gan y sêr Hollywood Ryan Reynolds, Rob McElhenney a Michael Sheen, yn ogystal â chyhoedd gogledd Cymru a thu hwnt.
Yn yr un flwyddyn ag y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi ei 50fed pen-blwydd, mae CPD Heddlu Wrecsam wedi gosod targed codi arian o £50,000.
Wrth longyfarch y Rhingyll Smith, dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM: "Dwi'n falch iawn bod Dave wedi cael ei gydnabod am ei holl waith caled.
"Yn ei fywyd proffesiynol, mae Dave yn ymgorffori un o flaenoriaethau ein heddlu ni sef bod yn weladwy ac ymgysylltu hefo'n cymunedau ni. Mae'n parhau gwneud hyn yn ei amser ei hun trwy ei waith elusennol.
"Does dim amheuaeth bod manteision ymdrechion Dave yn parhau cael eu teimlo gan ein cymunedau ni yng ngogledd Cymru."
Dywedodd y Rhingyll Smith: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy enwebu fel hyn – roedd yn syndod llwyr ac yn sicr 'dio ddim yn rhywbeth roeddwn i'n ei ddisgwyl.
"Mae'n wobr unigol, ond mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn cyrraedd y pwynt lle 'da ni rŵan sef ar fin cyrraedd cyfanswm namyn £50,000 mewn llai na thair blynedd. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.
"Roedd chwalu'r rhwystrau rhwng swyddogion heddlu a'r cymunedau 'da ni'n eu gwasanaethu nhw wrth wraidd yr hyn oedden ni'n bwriadu ei wneud pan ddechreuon ni godi arian yn 2022.
"Dyna'r hyn 'da ni eisiau parhau ychwanegu ato wrth i ni wynebu 2025."