Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 90 o arestiadau wedi cael eu gwneud gan swyddogion fel rhan o'r Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau’r Nadolig.
Ers cychwyn yr ymgyrch ar 1 Rhagfyr mae 40 o arestiadau yfed a gyrru a 54 o arestiadau am yrru ar gyffuriau wedi’u gwneud ar draws y rhanbarth.
Mae sawl un o’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru eisoes wedi ymddangos o flaen y llys ac maent wedi cael colli eu trwyddedau gyrru ac wedi derbyn dirwyon.
Lefel alcohol uchaf yr ymgyrch hyd yn hyn ydy 166 (35 ydy’r terfyn cyfreithiol) lle cafodd dyn 39 oed ei arestio yn Wrecsam ar 17 Rhagfyr. Mae’r dyn, sydd o’r ardal, eisoes wedi cael ei gyhuddo o yfed a gyrru ac mi fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam ar 7 Ionawr.
Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau yn gorfod aros am ganlyniadau profion pellach cyn fydd penderfyniad i gyhuddo yn cael ei wneud. Gwnaeth y rhai a gafodd eu harestio roi profion positif am ganabis a chocên. Roedd rhai yn bositif am y ddau gyffur.
Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau rhwng 17 a 71 oed ac mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru rhwng 20 a 78-oed.
Yn nodedig, arestiwyd dau yrrwr lori brynhawn Sadwrn diwethaf – y ddau ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau. Y cyntaf i gael ei arestio oedd dyn 36-oed o Amlwch – derbyniwyd galwadau i ystafell reoli’r heddlu gan aelodau pryderus o’r cyhoedd ynglŷn â’r ffordd yr oedd yn gyrru. Aeth swyddog o Uned Troseddau’r Ffyrdd i chwilio amdano a dod o hyd iddo ar yr A55 Tal-y-Bont ger Bangor lle profodd yn bositif am cocên. Cafodd ei arestio ac mae eisoes wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Cafodd gyrrwr lori arall ei arestio ychydig wedyn ar yr A5 ger Ogwen – rhoddodd y dyn 20-oed brawf positif am cocên ond roedd hefyd yn gyrru heb drwydded ddilys, heb yswiriant a heb MOT. Mae o hefyd wedi ei ryddhau dan ymchwiliad pellach.
Dywedodd y Rhingyll Emma Birrell o Uned Troseddau’r Ffyrdd: “Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch tuag at yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau drwy gydol y flwyddyn, ond mae ein hymgyrch ym mis Rhagfyr yn ein gweld yn cynnal patrolau helaeth ar draws y rhanbarth.
“Mae gyrru dan ddylanwad yn peryglu bywydau holl ddefnyddwyr y ffyrdd a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni hyd yn hyn gyda gwybodaeth. Mae eich galwadau wir yn gwneud gwahaniaeth.
“Fe ddylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru, tra byddant o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, wybod y byddwn allan yn disgwyl amdanynt.
“’Da ni wedi ymrwymo i wneud y ffyrdd yn saffach i bawb a ‘da ni’n parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu eu bywyd eu hunain a phobl eraill. Hyd yn hyn rydym wedi gwneud arestiadau ar draws y rhanbarth – o Wrecsam i Benrhyndeudraeth, o’r Bermo i Dreffynnon, ac o Flaenau Ffestiniog i Shotton. Does unman i guddio.
“Yn draddodiadol bydd nifer yn mynychu partïon Nadolig y penwythnos yma wrth iddynt orffen gwaith a ‘da ni’n erfyn arnyn nhw wneud trefniadau i fynd adref yn ddiogel. Mae alcohol a chyffuriau yn aros yn eich system yn hirach na dach chi’n meddwl, felly rydym yn atgoffa gyrwyr y gallent fod dros y terfyn cyfreithiol y bore wedyn ar ôl noson o yfed.
“’Da ni eisiau i bawb fwynhau’r cyfnod ac mae hwn yn un o’n hymgyrchoedd pwysicaf. Er ein bod yn rhoi rhybuddion yn rheolaidd am beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, mae gormod yn parhau i gymryd y risg.”
Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn yr hashnodau #5Angheuol ac #YmLimit.
Os ‘da chi’n amau bod rhywun yn gyrru pan na ddylent wneud hynny, riportiwch i’r heddlu drwy ffonio 101 (neu ffoniwch 999 os ydy’r perygl ar fin digwydd) neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.