Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn anffodus, mi allwn ni gadarnhau bod corff dyn wedi’i ddarganfod yn ardal Trearddur, Caergybi ar ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Mae’r dyn rŵan wedi ei adnabod yn ffurfiol fel Rowan, 33 oed, oedd wedi’i riportio fel unigolyn coll o Fangor yr wythnos diwethaf. Ni chredir bod amgylchiadau amheus.
Yn dilyn chwilio yn sgil ei ddiflaniad, dywedodd tad Rowan: “Diolch i’r heddlu, gwylwyr y glannau, yr RNLI a phawb arall wnaeth helpu ganfod Rowan.
“Mae’r teulu’n hynod o ddiolchgar am yr holl ymdrechion wnaethon nhw, ac i bobl ddaeth allan i helpu yn eu hamser eu hunain.
“Diolch i’r heddlu a swyddfa’r crwner am eu help a’u hystyriaeth o'r teulu. Diolch bawb.”
Mae ein cydymdeimlad ni efo teulu a ffrindiau Rowan yn parhau, sy’n gofyn bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn.