Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O Fedi 24, bydd newidiadau i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i feddu ar gyllyll a machetes ‘steil zombie’.
O ganlyniad i’r newid, sy’n cael ei gefnogi gan Grŵp Gwaith Troseddau Cyllyll yr NPCC, bydd hefyd yn erbyn y gyfraith i weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu neu gyflenwi’r eitemau hyn.
Cyn y newid yn y ddeddfwriaeth, mae’r Llywodraeth yn cynnal amnest ledled y DU, a fydd yn rhedeg o Heddiw, dydd Llun, Awst 26 tan ddydd Llun, Medi 23.
Dylid annog unrhyw un sydd â’r eitemau hyn i’w rhoi yn eu gorsaf heddlu penodedig agosaf. Os, ar ôl Medi 24 y byddwch yn cael eich canfod yn meddu ar un o’r cyllyll neu machetes hyn, gallech gael eich erlyn.
Gellir cyflwyno eitemau yn unrhyw un o’r gorsafoedd heddlu canlynol:
Wrecsam
Hen Oriel, Ffordd Rhosddu, LL11 1AU
Llun – Sadwrn: 9am – 7pm
Sul: 9am – 6pm
Y Rhyl
Wellington Road, LL18 1DA
Llun – Sadwrn: 9am – 7pm
Sul: 9am – 6pm
Bangor
Ffordd Gwynedd, LL57 1DT.
Llun - Sadwrn 9am – 7pm
Sul: 9am – 6pm
Sut ydw i’n cludo’r arfau i orsaf heddlu?
Mae’r Llywodraeth hefyd yn rhedeg cynllun iawndal yn ystod yr amest hwn. Darganfyddwch a yw’r eitemau rydych chi’n eu cyflwyno yn gymwys ar gyfer y cynllun ar wefan Compensation scheme for 'zombie' knives and machetes - GOV.UK (www.gov.uk)
Diffiniad o gyllell ‘arddulll zombie’
Mae cyllell arddull zombie yn arf â llafn gyda:
Sydd hefyd ag un neu fwy o’r canlynol:
Os oes gennych chi bryderon am rywun ‘da chi’n ei adnabod neu'n gofalu amdanyn nhw, ac sy'n cario neu'n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu'r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.