Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed o Wrecsam wedi ei garcharu am dagu swyddog heddlu benywaidd.
Mi ymddangosodd Callum Williams, o Goed Efa, Brychdyn Newydd, yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, lle gafodd ddedfryd o 10 mis yn y carchar.
Mi gyfaddefodd o’r cyhuddiad o dagu bwriadol yn dilyn digwyddiad yn ei gartref ar 16 Mawrth 2024, ar ôl i swyddogion gael eu galw i hysbysiad o bryder am blentyn yn ei gyfeiriad.
‘Roedd Williams yn ymosodol. Ar ôl ffrwgwd, mi roddodd ei fraich o amgylch gwddw swyddog, gan gydio’n dynn.
‘Roedd Williams o dan orchymyn dedfryd ohiriedig ar y pryd, yn dilyn trosedd gyrru cynharach o fis Chwefror 2024.
Heddiw, mi gafodd ei weithredu am ddau fis, efo wyth mis ychwanegol am yr ymosodiad.
Dywedodd y swyddog archwilio, y Ditectif Gwnstabl Troy Williams: “’Roedd hwn yn ymosodiad treisgar ar swyddog heddlu oedd yn ymateb i hysbysiad ynglŷn â lles plentyn.
“’Da ni’n croesawu’r ddedfryd yma fel adlewyrchiad na fydd goddef ymddygiad fel hyn tuag at swyddogion.
“Mi wnawn ni barhau gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n ymosod ar swyddogion, drwy eu hymddygiad treisgar nhw.”