Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cryfhau ei ymrwymiad i'r Gymraeg ymhellach drwy ei gwneud yn nodwedd warchodedig.
Mae gan yr iaith eisoes statws cyfartal â'r Saesneg ac fe'i defnyddir yn helaeth yn ddyddiol ym mhob maes busnes, ond mae'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman eisiau sicrhau nad oes unrhyw un o'r gweithwyr presennol na gweithwyr y dyfodol sydd a'r Gymraeg yn fam iaith iddynt o dan unrhyw anfantais.
Dywedodd: 'Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, rydym am ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i gynnal yr ymchwiliadau gorau y gallwn ac rwy'n gwybod bod dioddefwyr a thystion yr ydym yn siarad â nhw yn gallu rhoi'r dystiolaeth orau os gallent wneud hynny yn eu hiaith gyntaf.
"Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd mae angen i mi sicrhau bod ein gweithlu yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau a gweithio mewn amgylchedd dwyieithog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu."
Dywedodd Prif Gwnstabl Blakeman, sy'n dysgu Cymraeg: "Mae'r Gymraeg yn bwysig nid yn unig i fy staff, ond hefyd i gymunedau ehangach Gogledd Cymru, yn enwedig y rhai lle mae canran sylweddol o bobl yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.
"Rydyn ni fel sefydliad mewn lle da o ran ein darpariaeth Gymraeg, ond mae mwy y gallwn ni ei wneud i wella ein gwasanaethau.
"Dyna pam mewn egwyddor ac yn Heddlu Gogledd Cymru rwy'n cyflwyno'r Gymraeg fel degfed Nodwedd Warchodedig. Bydd hyn yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol nag unrhyw iaith arall."
Un maes ar gyfer gweithredu ar unwaith yw'r broses recriwtio. Mae gwaith ar y gweill gyda'r Coleg Plismona i sicrhau bod y broses asesu ar-lein, sydd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ar gael yn Gymraeg.
Dywedodd Prif Gwnstabl Blakeman: "Yr wyf eisoes wedi herio hyn ac mae gwaith ar y gweill i gywiro hyn. Mae'n bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn cael y dewis i gwblhau'r broses yma yn eu hiaith eu hunain.
"Rydym eisoes yn anelu at ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â ni am ba bynnag reswm, ond os ydym am barhau i wella ar hyn yna mae'n rhaid i ni hefyd gael proses recriwtio deg nad yw'n rhoi siaradwyr Cymraeg dan anfantais."
Rhaid i bob gweithiwr fod yn gallu siarad Cymraeg â gwahanol lefelau rhuglder yn ddibynnol ar y rôl. Mae cymorth ar gael yn barod i bawb wella eu Cymraeg a bydd hyn yn parhau.
Dywedodd Prif Gwnstabl Blakeman: "Byddwn yn parhau i gefnogi pawb sydd am wella eu lefel o sgiliau siarad Cymraeg a sicrhau eu bod yn cael gwell cyfleoedd i ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn y gweithle. Mae'n ddyletswydd arnom i'n cymunedau allu darparu'r gwasanaethau dwyieithog gorau posibl."