Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed wedi cael ei garcharu am chwe blynedd am ymosod ar eneth ifanc.
Ymddangosodd Jordan Swaine, o Wyndy, Trawsfynydd, ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug i'w ddedfrydu heddiw (dydd Gwener, 9 Awst).
Fe'i cafwyd yn euog o weithgaredd rhywiol hefo plentyn, gan achosi neu annog plentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, gan achosi i blentyn wylio gweithgarwch rhywiol a chyflenwi canabis.
Roedd Swaine yn gweithio mewn gwersyll yn 2021 pan ymosododd ar ferch 14 oed yn rhywiol ar ôl gofyn iddi am ryw dro ar ôl tro, er gwaethaf gwybod ei hoedran.
Ar achlysur arall yn ei fan, rhoddodd ganabis i'r dioddefwr a dangos ei fideos pornograffig ar ei ffôn, cyn cloi'r drysau a phwyso arni i gyflawni rhyw geneuol arno.
Er ei bod yn rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un ar y pryd, fe ddaeth y dioddefwr ymlaen yn ddewr ym mis Ionawr 2022.
Cafodd ei garcharu am chwe blynedd heddiw a derbyniodd orchymyn atal oes i warchod y dioddefwr.
Fe'i gwnaed hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ifan Jones: "Manteisiodd Swaine ar ferch fregus, gan wybod ei bod o dan 16 oed.
"Mae ei weithredoedd wedi achosi dioddefaint a thrawma arni hi a'i theulu. Roedd hi'n hynod o ddewr i ddod ymlaen ac mae wedi bod yn ddewr drwy gydol y broses llys.
"Dwi'n gobeithio bod canlyniad heddiw yn rhoi'r sicrwydd iddi nad ydy o bellach yn gallu ei chyrraedd, nac unrhyw un arall.
"'Da ni’n cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif, a 'da ni'n annog unrhyw un sydd wedi dioddef, waeth pa mor bell yn ôl, i ddod ymlaen. Fe wnawn ni'ch helpu chi."
Os 'da chi wedi dioddef trosedd rywiol, rhowch wybod i'r heddlu drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, neu drwy linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.