Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn gwrandawiad camymddwyn gafodd ei gynnal yn ddiweddar ym Mhencadlys yr Heddlu, mae swyddog wedi ei ganfod yn euog o gamymddygiad difrifol, ac wedi ei ddiswyddo o’r heddlu, sy’n effeithiol ar unwaith.
Mi wynebodd y cyn-Gwnstabl 3352 Owain Lewis honiad ei fod, ar 16 Rhagfyr 2022, pan nad oedd ar ddyletswydd, wedi mynd i gyfeiriad yn ardal Bwcle, Sir y Fflint. Tra yno, ‘roedd yn gyfrifol am weithrediad o drais tuag at eiddo, ac o ganlyniad, mi achosodd ddifrod i ffôn symudol. Digwyddodd hyn mewn lleoliad domestig.
Mi ganfuwyd bod Lewis wedi torri rheolau Safonau Ymddygiad Proffesiynol, yn ymwneud ag Ymddygiad Annheilwng.
Ar ben cael ei ddiswyddo heb rybudd, mi fydd hefyd ar restr waharddedig yn ei atal rhag gwasanaethu fel swyddog heddlu unrhyw bryd yn y dyfodol.
Yn siarad ar ôl cwblhau y gwrandawiad, dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl, Nigel Harrison: “’Da ni’n disgwyl y safonau a’r proffesiynoldeb uchaf oddi wrth ein holl swyddogion a staff yr heddlu, pan maen nhw ar ddyletswydd, a phan nad ydyn nhw ar ddyletswydd.
“’Roedd gweithrediadau y cyn-Gwnstabl Lewis yn amhriodol, yn amhroffesiynol, ac yn annerbyniol.
“Mae’r math yma o ymddygiad yn tanseilio ymddiriedaeth a hyder mewn plismona. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd bob hysbysiad o gam-drin domestig a thrais tuag at ferched a genethod o ddifri. Safbwynt Heddlu Gogledd Cymru ydy ymchwilio yr holl faterion yn gadarn, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd, sy’n cael ei arddangos drwy’r canlyniad hwn.
“Da ni’n annog unrhyw un efo pryderon o’r math yma i siarad efo ni – nid ydych chi ar eich pen eich hun, mi wnawn ni wrando, ac mi fydd eich profiadau yn cael eu cymryd yn wirioneddol o ddifri.”