Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda phenwythnos Gŵyl y Banc olaf yr haf yma, mae partneriaid yn ymuno i annog pob gyrrwr i barcio’n gyfrifol ac yn ddiogel os ydynt yn ymweld â mannau harddwch poblogaidd ledled Gogledd Cymru.
Mae unrhyw un sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau mwyaf poblogaidd y rhanbarth hefyd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a bod yn ystyrlon i gymunedau lleol.
Wrth i wyliau haf yr ysgolion ddod i ben, disgwylir y bydd y rhanbarth yn dod yn hynod o brysur dros y dyddiau nesaf.
Mae rhai negeseuon allweddol gan holl asiantaethau partner yn cynnwys:
Meddai’r Arolygydd Dros Dro Jason Diamond, Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth i ni fentro i benwythnos gŵyl y banc olaf yr haf, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.
“Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maent yn parcio ac gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael. Mae hwn yn cynnwys gwneud defnydd o’r gwasanaeth bws gwennol sy’n cael ei ddarparu yn y Parc Cenedlaethol.
“Fe wnawn barhau i gydweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn helpu lleihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. Nid yn unig mae hyn yn peryglu bywydau ond hefyd mae’n atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.
“Mae Timau Achub Mynydd ar draws Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau eleni – plis helpwch nhw drwy baratoi a sicrhau eich bod hefo’r offer a’r dillad cywir. Mae gwybodaeth defnyddiol ar gael drwy gwefan Adventure Smart.”
Meddai Jonathan Cawley, Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro Parc Cenedlaethol Eryri: “Wrth i Ŵyl y Banc agosáu, mae’n bwysig i bawb sy’n cynllunio taith i Eryri fod yn ymwybodol bydd rhai o’n safleoedd yn llawn.
“Rydym yn argymell yn gryf i ymwelwyr feddwl yn ofalus am ben eu taith a chael cynllun wrth gefn os yw’r dewis cyntaf yn rhy brysur. Trwy fod yn hyblyg, gallwn barhau i warchod ein cymunedau ac amgylchedd a sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel.”
Yn ystod cyfnodau prysur, anogir ymwelwyr i Eryri i ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio neu ardaloedd parcio pwrpasol os ydynt yn cyrraedd mewn car. Dylai ymwelwyr sydd eisiau defnyddio maes parcio Pen y Pas arbed eu lle o flaen llaw i sicrhau argaeledd ac i leddfu tagfeydd – ewch i Parking on Llanberis, Snowdonia, LL55 - from £20 per hour (justpark.com)
Dylai perchnogion cerbydau gydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio newydd sydd yn Nyffryn Ogwen, neu gall peidio â gwneud arwain at docyn cosb penodol neu hyd yn oed symud y cerbyd.
Yn ogystal, dylid parchu cymuned Nant Gwynant trwy ddilyn canllawiau lleol, bod yn ymwybodol o sŵn a mynd â’r holl sbwriel adref gyda chi.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn amlinellu egwyddorion ymddygiad cyfrifol yn yr awyr agored, gan gynnwys parchu eraill, gwarchod bywyd gwyllt ac anifeiliaid a peidio â gadael unrhyw ôl. Anogir ymwelwyr i ymgyfarwyddo â’r cod a dilyn ei argymhellion i ddiogelu tirweddau unigryw a bioamrywiaeth y rhanbarth.
Gwefannau defnyddiol: