Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn parhau i apelio am wybodaeth am ddyn 62 oed o Wrecsam ar ôl iddo ddiflannu bron i fis yn ôl.
Cafodd Anthony ei weld y tro olaf gamerâu cylch cyfyng ddydd Gwener, 5 Gorffenna yn ardal Y Waun.
Roedd yn cerdded ar hyd lôn tuag at y Marina i gyfeiriad Whitehurst rhwng 4.30pm a 4.45pm.
Roedd yn gwisgo crys-t gwyn gyda siaced lliw tywyll, trowsus tywyll ac yn cario bag siopa.
Er gwaethaf chwiliadau arbenigol rhwng ardal y Waun ac Acrefair ar ôl iddo ddiflannu nid yw wedi ei ddarganfod.
Disgrifir Anthony i fod tua 5 troedfedd a 10 modfedd, o faint corfforol mawr, gyda gwallt llwyd byr a mwstas.
Cafodd ei eiddo ei ddarganfod ger camlas y Waun ddydd Sul, 7 Gorffennaf.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Dean Jones: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Anthony ar yr adeg anodd yma.
"Rydym yn parhau i ddilyn trywydd ymchwilio i helpu i ddod o hyd iddo a diolch i'r cyhoedd am eu cymorth gyda'n hymchwiliad hyd yn hyn.
"Mae unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol, ac rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi ei weld ar ôl 5 Gorffennaf i gysylltu â ni."
I wneud adroddiad, gallwch gysylltu â ni drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 47761.