Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu swyddogion o Uned Troseddau’r Ffyrdd yn ymweld â chwrs diogelwch beicwyr modur yng Ngorsaf Dân y Rhyl ar ddydd Sadwrn er mwyn dangos eu cefnogaeth.
Mae BikerDown yn gwrs sydd yn rhad ac am ddim sy’n cael ei ddysgu dim ond gan weithwyr proffesiynol y gwasanaethau brys sy’n dysgu sut i ddiogelu beiciwr modur hyd nes bod yr ambiwlans yn cyrraedd.
Cafodd y cwrs ei greu gan Jim Sanderson o Wasanaeth Tân ac Achub Caint ac mae’n cael ei ddysgu ledled y DU gan bersonél y gwasanaethau brys sy’n ymroddedig i achub bywydau a helpu’r cyhoedd i wybod beth i’w wneud pe baen nhw’n cyrraedd lleoliad gwrthdrawiad beic modur.
Yng Ngogledd Cymru mae’r cynllun yn cael ei arwain gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Meddai Lee Parsons, Rheolwr Gorsaf Dân Y Rhyl: “Mae’r sgiliau achub bywyd yma’n hanfodol i unrhyw un sydd yn dod ar draws beiciwr sydd wedi anafu ac mae’r cwrs yn agored i feicwyr modur o bob oed a lefelau profiad.
“Mae’r gweithdy yn cynnwys tair modiwl – rheoli lleoliad y digwyddiad, sgiliau gwylio claf a sgiliau’r beiciwr. Diolch i elusen DocBike bydd pob myfyriwr yn derbyn cit Cymorth Cyntaf arbenigol sydd wedi ei ddylunio ar gyfer cael ei gludo ar feic modur.
“Rwyf yn annog pob beiciwr modur i gymryd mantais o’r cyfle i fynychu cwrs BikerDown am ddim.”
Meddai’r Arolygydd Dros Dro, Jason Diamond, sy’n arwain ar Ymgyrch Darwen ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Ein prif nod yw diogelu ffyrdd Gogledd Cymru gymaint ag sy’n bosib. Mae unrhyw farwolaeth ar y ffyrdd yn un yn ormod ac rydym ni, fel yr heddlu, yn gweld yr effaith ar deulu a ffrindiau y beiciwr neu gyrrwr.
“Rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu’r ffyrdd i bawb ac rydym yn gwbl gefnogol o’r gweithdai BikerDown sy’n cael eu cydlynu gan ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Tân ac Achub.”
Mae llefydd ar gael ar y gweithdai canlynol yng Ngorsaf Dân y Rhyl:
Er mwyn arbed eich lle neu rhoi eich enw ar y rhestr aros plis cysylltwch â’r tîm drwy: BikerDown-North Wales - DocBike
Nodiadau:
Llun 1 (o’r chwith i’r dde): Rhingyll Dros Dro Leigh McCann, Arolygydd Dros Dro Jason Diamond, PC Andy Roberts, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Helen MacArthur, Paul Ellams a Lee Parsons o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Llun 2: Rhigyll Dros Dro Leigh McCann hefo rhai o fynychwyr y gweithdy.
Gellir darllen fwy am Ymgyrch Darwen drwy’r wefan: Heddlu’n lansio Ymgyrch Darwen 2024 | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)