Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion a staff o bedwar heddlu Cymru newydd ddychwelyd o daith feicio 200 milltir er cof am swyddogion a staff yr heddlu a fu farw wrth wasanaethu.
Bu’r timau o feicwyr, beicwyr modur a staff cynorthwyol a oedd yn cymryd rhan yn nhaith Undod yr Heddlu, gychwyn ar eu taith o Orsaf Heddlu Aberystwyth ar ddydd Gwener, 26 Gorffennaf i’r Goedardd Goffa Genedlaethol yn Swydd Stafford dros gyfnod o dri diwrnod.
Daeth y daith i ben ddydd Sul lle cynhaliwyd seremoni goffa arbennig hefo swyddogion a staff yr heddlu a oedd wedi teithio ar hyd a lled y DU.
Roedd y tîm yn casglu arian tuag at elusen COPS (Care of Police Survivors), sydd yn darparu cymorth i swyddogion a staff sydd wedi anafu, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi dioddef galar.
Gwnaeth pob aelod o’r tîm wisgo breichled las hefo enw a gwybodaeth am Swyddog Heddlu a fu farw wrth wasanaethu a dyma nhw i gyd yn cael eu gwisgo wrth groesi’r llinell derfyn.
Drwy roddion ar-lein a thrwy werthu teisennau, mae Tîm Heddlu Gogledd Cymru, hyd yn hyn, wedi casglu bron i £4,000. Mae amser o hyd i gyfrannu tuag at yr achos a gellir gwneud hynny drwy: justgiving.com
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae’r elusen COPS yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n anrhydedd o hyd cymryd rhan yn y digwyddiad. Mae’r Daith Undod yn sicr yn ddigwyddiad sy’n ein gwneud ni’n falch iawn o fod yn rhan o deulu plismona.
“Gwnaeth dros 500 o feicwyr a staff cynorthwyol ar draws y DU gymryd rhan yn y daith eleni, ac roedd yn gyfnod hynod o deimladwy yn gweld pawb yn cyrraedd y Goedardd Goffa.
“Hoffwn ddiolch i bob un aelod o dîm Heddlu Gogledd Cymru, a gweddill heddluoedd Cymru yn gwneud eu rhan drwy anrhydeddu cof yr holl swyddogion a staff a gollodd eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswydd.
“Dwi’n hynod o falch o dîm Heddlu Gogledd Cymru wnaeth feicio tua 130 milltir o Bencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn i lawr i Aberystwyth ar y dydd Iau.
Fe ychwanegodd: “Mae’r Daith Undod yn gyfle teimladwy i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr, ynghyd a’r cyhoedd, er mwyn cydnabod peryglon plismona’r cyfnod modern a thalu teyrnged i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau wrth warchod eu cymunedau.
“Mae’r gwaith y mae COPS yn ei wneud yn hanfodol. Tra na ddylai neb orfod fod angen eu gwasanaeth, mae rhai ei angen yn anffodus. Mae’n fraint seiclo hefo’n gilydd er mwyn cofio ein cydweithwyr a dangos na wnawn ni fel gwasanaeth heddlu fyth anghofio eu haberth.”
Dywedodd Jayne Humphreys, Swyddog Cyfathrebu ac Achosion Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r Daith Undod yn ddigwyddiad sy’n ein gwneud ni’n falch o fod yn rhan o deulu’r heddlu.
“Mae’r gwasanaeth COPS ar y bore dydd Sul o hyd yn un emosiynol i’r seiclwyr, y timau cymorth, y teuluoedd a’u gwesteion. Mae’n gyfle i bawb ddal i fyny hefo’i gilydd. Roedd wir yn fraint cael bod yn rhan o’r digwyddiad er mwyn cynrychioli Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â chefnogi’r seiclwyr, goroeswyr a’r elusen.”
Nodiadau:
Amserlen teithio
Diwrnod 1: Dydd Iau, 25 Gorffennaf
Diwrnod 2: Dydd Gwener 26 Gorffennaf (diwrnod cyntaf y daith yn swyddogol)
Diwrnod 3: Dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf
Diwrnod 4: Dydd Sul, 28 Gorffennaf