Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a dynes heddiw wedi’u carcharu am gyfanswm o 48 mlynedd am lofruddiaeth.
Mi wnaeth Lauren Harris, 29, o ddim cyfeiriad sefydlog ond yn wreiddiol o ardal Llandudno, a David Webster, 43, o Lacey Street, Widnes, lofruddio Mark Wilcox, 63 oed, yn ei gartref ym Mae Colwyn ar 29 Tachwedd llynedd.
Mi ymddangosodd y ddau o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, lle gafodd y ddau ddedfryd carchar am oes.
Mae’n rhaid i Harris gyflawni o leiaf 25 mlynedd yn y carchar, a rhaid i Webster gyflawni o leiaf 23 mlynedd, cyn cael eu hystyried i geisio am parôl.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, yr Uwcharolygydd Sarah-Jayne Williams: “Cafodd tad, gŵr, mab, brawd a thaid cariadus ei lofruddio’n dreisgar ac yn ddisynnwyr. Cafodd ei ’Roedd hwn yn lofruddiaeth treisgar a disynnwyr o dad cariadus, gwr, fywyd ei gymryd mewn amgylchiadau dianghenraid.
“Mae ei deulu yn dioddef yn ddrwg yn sgil eu colled, a ‘dwi’n cydnabod na fydd unrhyw ddedfryd yn ei ddychwelyd o iddyn nhw. Fodd bynnag, ‘dwi’n gobeithio bod canlyniad heddiw yn dod â rhywfaint o heddwch iddyn nhw.
“Mae nhw wedi arddangos dewrder ac urddas aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad cymhleth a hir hwn, ac mae fy meddyliau efo nhw heddiw.
“Mi wnaeth Harris a Webster lofruddio Mark yn ddidostur yn ystod ymosodiad parhaus, yn ei gartref ei hun, lle ddylai wedi bod yn ddiogel. Mi wnaethon nhw gymryd ei eiddo, gan gynnwys ei gar, a bu hwnnw wedyn mewn gwrthdrawiad hefo Harris wrth y llyw.
“Mae nhw wedi ymestyn dioddefaint y teulu drwy wrthod cyfaddef eu rhan yn lladd Mark, wrth ddangos dim edifeirwch am eu gweithredoedd.
“’Dwi’n gobeithio bydd y ddedfryd hir hon yn rhoi rhywfaint o amser iddyn nhw adlewyrchu ar be’ mae nhw wedi ei wneud.”
Ychwanegodd teulu Mark: “’Roedd Mark yn ein caru ni i gyd, ac mi ‘roeddem ni’n ei garu o. ‘Da ni wedi colli ein brawd, mab, gŵr, ewythr, tad, taid, mentor a ffrind cariadus, digrif, caredig a sensitif.
“Mi ‘roedd Mark yn ddyn caredig, mawr ei ofal ac yn hael, oedd yn ein gwneud ni chwerthin ac roedd bob amser efo gair caredig i bawb oedd o’n cyfarfod ac yn eu hadnabod nhw.
“Fel teulu, ‘da ni’n wirioneddol ar goll. Mi fydd wyrion Mark yn tyfu fyny heb eu taid cariadus.
“Mae marwolaeth Mark yn gadael bwlch na fydd fyth yn cael ei lenwi. Ni fydd pethau’r un fath byth eto.”