Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gafodd ataliad ar y galon wrth yrru adref wedi cyfarfod y ddau swyddog heddlu a helpodd i'w achub.
Roedd Neville Owen yn pasio trwy Dwnnel Conwy ar yr A55 ar 21 Awst y llynedd pan ddechreuodd ei fan fownsio o un wal y twnnel i'r llall ar ôl iddo lewygu y tu ôl i'r llyw a methu ymateb.
O fewn munudau i'r digwyddiad, roedd swyddogion Traffig Cymru, Leon Kynaston a'i gydweithiwr yn y fan a'r lle yn cynnal CPR, cyn i'r swyddogion troseddau ffyrdd sef PC Duncan Logan a PC Huw Capper gyrraedd hefo diffibriliwr a achubodd ei fywyd.
Nid oedd gan Neville, o Lanfairpwll yn Ynys Môn, a oedd wedi profi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, unrhyw atgof o'r ddamwain.
Yn ddiweddar, cyfarfu'r dyn 64 oed hefo PC Logan a PC Capper yn eu canolfan yn Llanelwy am y tro cyntaf ers y digwyddiad.
Fe ddywedodd o wrthyn nhw: "Does dim geiriau i ddisgrifio sut dwi'n teimlo."
Dywedodd PC Logan: "'Da ni cario diffibrilwyr fel arfer yn yr holl geir traffig, felly pan gyrhaeddais i'r fan a'r lle, mi wnes i ei dynnu allan yn syth, mynd drosodd, gosod y padiau ac yna pwyso'r botwm ar y peiriant a gadael iddo wneud ei waith.
"Roedd yn cynghori cymryd sioc, felly cymerodd pawb gam yn ôl ac yn ffodus, fe weithiodd hynny. Diolch byth, o fewn ychydig funudau, fe gyrhaeddodd y gwasanaeth ambiwlans."
Wrth gofio ei symptomau o ddiwrnod y digwyddiad, dywedodd Neville: "Y bore hwnnw, ro'n i'n cael poenau yn y frest, yn meddwl mai dŵr poeth oedd gen i. Felly mi wnes i gymryd dwy dabled a mynd i weithio.
"Mi wnes i stopio ym Mae Colwyn ar fy ffordd yn ôl a chwarae gêm o fowls. Hanner ffordd drwy'r gêm, doeddwn i ddim yn teimlo'n dda felly neidiais yn fy fan i ddod adref."
Wrth iddo nesáu at y twnnel, cofiodd fod y traffig wedi arafu.
"Ar ôl hynny, dwi ddim yn cofio dim byd," ychwanegodd Neville.
"Mi wnes i ddeffro yn yr ysbyty a gweld fy ngwraig a'r plant, ac roedd fy mrawd yno. Mi wnes i ofyn, beth sy'n digwydd?
"Fe gymerodd hi ychydig funudau i ddod ataf fy hyn. Do, mi wnes i sylweddoli pa mor lwcus oeddwn i."
Ychwanegodd Neville: "Os oes gennych unrhyw boenau yn y frest o gwbl, peidiwch â chymryd yn ganiataol ei fod yn ddŵr poeth – ewch i gael archwiliad.
"Roedd y boen yma reit yng nghanol fy mrest, fel poen pigog o gwmpas y galon – fel y byddech chi'n ei gael hefo dŵr poeth."
Dywedodd PC Logan: "Dwi'n cofio mynd adref y noson honno ac eistedd lawr am ychydig funudau yn meddwl, mae'n fyw.
"Mae'n braf rhoi newyddion cadarnhaol i rywun, oherwydd yn anffodus, fel rhan o'n rôl ni fel swyddog heddlu, 'da ni'n mynd i gnocio ar ddrysau pobl yn dweud wrthyn nhw bod eu hanwyliaid wedi marw.
"Yr oll fyddwn i'n ei ddweud wrth bobl ydy, peidiwch â bod ofn defnyddio diffib.
"Pan fyddwch yn ffonio 999, bydd rhywun sy'n cymryd galwadau ambiwlans yn dweud wrthych chi beth i'w wneud. Dechreuwch CPR, gofynnwch i rywun arall gael y diffibriliwr, esbonio sut i ddefnyddio'r teclyn a threfnu'r gwasanaeth ambiwlans.
"Dydy diffibriliwr ddim yn gallu gwneud unrhyw beth i niweidio'r unigolyn yna – mae'n werth rhoi cyfle i'r unigolyn yna."
Yn dilyn y digwyddiad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn 30 o diffibriliwr ychwanegol ar gyfer gorsafoedd a cherbydau'r heddlu drwy waith partneriaeth hefo Achub Bywyd Cymru.
Bydd pob un o cerbydau bellach yn cario un o'r teclynnau achub bywyd, fel y mae'r Uned Troseddau Ffyrdd a Swyddogion y Gynghrair Arfog yn barod, gan alluogi gwell mynediad i ddiffibrilwyr ar draws cymunedau cefn gwlad.
Dywedodd Colin Jones, Rheolwr Iechyd a Diogelwch Heddlu Gogledd Cymru: "Gall y rhodd hael hon gan Achub Bywyd Cymru olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth – fel y gwnaeth hefo Neville.
"Os ydy rhywun yn cael ataliad ar y galon, mae amser yn hollbwysig.
"Mae diffibrilwyr yn achub bywydau ac mae cael mynediad atyn nhw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae llawer ohonyn nhw yng Ngogledd Cymru, yn hanfodol.
"Efallai na fydd gan rai cymunedau anghysbell ddiffibriliwr gerllaw. Mae'r rhodd hon yn golygu y gallan nhw ddarparu gofal achub bywyd nes bod clinigwr medrus yn cyrraedd os mai nhw ydy’r cerbyd ymateb 999 agosaf yn yr ardal."
Fe ychwanegodd y Rhingyll Peter Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: "Mae ein tîm yn ymweld hefo'n lleoliadau mwyaf gwledig mwyaf anghysbell wrth helpu'r gymuned amaethyddol.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n cario diffibriliwr gan bod ni'm yn gwybod pryd y gallwn ni wynebu sefyllfa y gallai diffib achub bywyd rhywun."
Dywedodd Dr Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: "Dwi'n falch iawn bod Achub Bywyd Cymru wedi sicrhau diffibrilwyr newydd ar gyfer holl gerbydau'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad.
"'Da ni'n gwybod bod unig siawns rhywun o oroesi ataliad ar y galon yn dibynnu ar wyliwr sy'n gweithredu'n gyflym, ffonio 999, dechrau CPR a defnyddio diffibriliwr.
"Gall ataliad ar y galon ddigwydd yn sydyn, i unrhyw un, unrhyw oedran, ar unrhyw adeg. Trwy gael diffibrilwyr symudol yn barod ac ar gael mewn cerbydau, gall achub bywydau pobl mewn cymunedau gwledig".