Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 41 oed a wnaeth dorri sgriniau gwynt pum car heddlu wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Stephen McCouid, sydd heb gartref sefydlog ond sy’n wreiddiol o ardal Lerpwl, yn Llys Ynadon Llandudno heddiw sef 14 Awst.
Plediodd yn euog i bum cyhuddiad o ddifrod troseddol.
Yn ystod nos Lun, 12 Awst chwalodd McCouid sgriniau gwynt pum car heddlu y tu allan i orsaf heddlu Caernarfon.
Cafodd ei garcharu am 10 wythnos.
Dywedodd Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd Ian Roberts: “Nid oes modd dirnad y weithred ddinistriol hon yn erbyn cerbydau’r gwasanaethau brys.
“Mae’r cerbydau allan o wasanaeth o hyd ac yn cael eu trwsio.
“Yn ffodus, roedd modd ymateb i argyfwng o hyd yn ystod cyfnod y gwyliau ysgol ond mi allai hyn fod wedi bod yn wahanol iawn.”