Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn, 37 oed, a guddiodd mewn gardd cyn ymosod ar ei gyn-gymar ar y stryd wedi ei garcharu.
Ar adeg y digwyddiad, roedd yn destun gorchymyn atal, ar ôl cynnau tân yn fwriadol i'w drws ffrynt bedair blynedd ynghynt.
Mi ymddangosodd Mark Harrison o City Road, Caer, ond yn wreiddiol o Wrecsam, gerbron Llys y Goron, yr Wyddgrug am ddedfrydu ddoe (dydd Iau, 22 Awst).
Mi gyfaddefodd aflonyddu drwy dorri gorchymyn atal ac ymosod gan achosi gwir niwed corfforol mewn gwrandawiad blaenorol.
Cafodd ddedfryd am ddwy flynedd a thri mis yn y carchar ac mi gafodd orchymyn atal 10 mlynedd er mwyn amddiffyn y dioddefwr a'u plant.
Mi ddigwyddodd yr ymosodiad ar 7 Mehefin, ar ôl i Harrison ollwng ei blant i ffwrdd gyda'i gyn-gymar yng nghyfeiriad perthynas.
Ar ôl gofyn iddo adael oherwydd ei bod yn cwrdd â ffrind, anfonodd negeseuon sarcastig iddi, ac mi ddangosodd hi nhw i'w ffrind.
Mi ofynnodd o gwrdd â'i ffrind, gan ei bygwth â thrais os na fyddai o'n cael gwneud hynny.
Wrth i'r dioddefwr gerdded adref, mi ymddangosodd Harrison o ardd yn y stryd, lle gwthiodd o’r dioddefwr i'r llawr cyn ei chicio a'i dyrnu nifer o weithiau.
Mi redodd i ffwrdd, ond mi ddychwelodd a'i dyrnu yn ei hwyneb cyn rhedeg i ffwrdd unwaith eto.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd, Dean Jones: "Roedd hwn yn ymosodiad treisgar direswm ar gyn-cymar Harrison, ac mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad dychrynllyd iddi hi a'i theulu.
"Mae ei dewrder a'i chefnogaeth barhaus drwy gydol yr ymchwiliad wedi bod yn ganmoladwy.
"Ein blaenoriaeth ni yw mynd i'r afael â phob hysbysiad o drais yn erbyn merched, ac mi fyddwn yn parhau i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell, gan geisio amddiffyn merched rhag niwed bob amser."