Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad treisgar yn y stryd yn Wrecsam.
Aethpwyd â'r dioddefwr, a gafodd ei guro i'r llawr yn anymwybodol yn dilyn un ergyd i Ysbyty Stoke gydag anaf i'w ymennydd.
Bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth y diwrnod hwnnw i helpu trin gwaedu ar yr ymennydd.
Cyfaddefodd Brandon Morris o Kingsway, Caer ei fod wedi achosi niwed corfforol difrifol ac ymddangosodd yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw sef dydd Iau, 29 Awst i gael ei ddedfrydu.
Cafodd ei garcharu am 16 mis.
Digwyddodd yr ymosodiad yng nghanol dinas Wrecsam yn ystod oriau man bore Sul, 10 Rhagfyr y llynedd.
Rhedodd Morris i fyny at y dioddefwr a'i daro yn ei wyneb gan wneud iddo ddisgyn ar lawr.
Cafodd anafiadau i'w benglog, a chleisiau a gwaedlif i'w ymennydd.
Yn dilyn y llawdriniaeth, darganfuwyd clot gwaed ar ei ymennydd, gan arwain at dynnu darn o asgwrn ei benglog i ryddhau pwysau.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Danielle Craig: "Mae'r ddedfryd hon heddiw yn dangos pa mor ddifrifol gall un ergyd fod a'r effaith ofnadwy y gall gael ar rywun.
“Arweiniodd ymddygiad Morris at anafiadau a fydd yn newid bywyd y dioddefwr. Roedd yn ymosodiad treisgar a hollol diangen ar ddyn ifanc llwyddiannus a oedd yn llawn uchelgais.
“Bellach, nid yw'n gallu gweithio ac mae'n anghofus, ymysg nifer o symptomau eraill. Bydd angen mwy o lawdriniaethau oherwydd yr ymosodiad.
"Gobeithio y bydd yr achos hwn yn anfon neges gref i rai sy'n ystyried ymosod ar unrhyw un."