Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a ddefnyddiodd dennyn ci i guro dyn yn ei ben wedi mynd i’r carchar.
Ymddangosodd Benjamin Crofts, o Ffordd Tan Y Bryn, Maesgeirchen, Bangor, yn Llys y Goron, Caernarfon ar 14 Awst ar ôl cyfaddef i achosi niwed corfforol difrifol.
Yn ystod oriau mân y 1af o Fai dechreuodd ffrae rhwng Crofts a dyn arall ar Ffordd Caergybi, Bangor.
Rhwymodd y dyn 27 goler ei gi o gwmpas ei law a churo’r dyn arall yn ei ben.
Syrthiodd y dioddefwr yn ôl a tharo ei ben ar y pafin gan fynd yn anymwybodol.
Dihangodd Crofts o’r safle ond cafodd ei ddal a’i arestio gan swyddogion heddlu.
Aeth y dioddefwr i’r ysbyty lle cadarnhawyd bod ganddo waedlif ar yr ymennydd a’i fod wedi torri asgwrn ei benglog.
Cafodd ei garcharu am flwyddyn a 11 mis.
Dywedodd Ditectif Rhingyll Jones: “Nid yw trais o unrhyw fath yn dderbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngogledd Cymru.
“Mi wnaeth ymddygiad Crofts achosi anafiadau difrifol a fydd yn cael effaith ar y dyn a’i deulu am amser hir.
“Gall un ergyd ladd, ac mae’n ffodus na chafodd neb eu lladd ar yr achlysur hwn.”