Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 23 oed wedi ei garcharu heddiw am 15 mlynedd am drais corfforol a rhywiol difrifol ar ddynes.
Mi wnaeth Connor Tabner, sydd efo’i gyfeiriad wedi’i restru fel Carchar y Berwyn, dreisio, ymosod yn rhywiol, tagu a hefyd rheoli ei ddioddefwr yn orfodol.
Mi ymddangosodd yn Llys y Goron, yr Wyddgrug ar gyfer dedfryd, heddiw, dydd Gwener, 9 Awst, ar ôl iddo gael euogfarn am saith cyhuddiad yn dilyn achos ym mis Mehefin.
Mi gafodd ddedfryd estynedig o 15 mlynedd yn y carchar.
Mi ddigwyddodd y troseddau dros gyfnod o 7 mis, rhwng 2022 a 2023.
Mi oddefodd y dioddefwr drais a bygythiadau, ac, ar un achlysur, mi roddodd Tabner glustog dros ei hwyneb, yn ei hatal rhag anadlu, tra’n bygwth ei niweidio hi’n dreisgar.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Deborah Jenkins: “Mae ymddygiad Tabner wedi gadael creithiau sy’n debygol o aros efo’r dioddefwr am byth.
“Beth bynnag, ‘dwi wir yn gobeithio bod dedfryd heddiw yn ei helpu hi rhywfaint, er mwyn iddi hi gael diweddglo a chryfhau, drwy wybod na allai Tabner achosi niwed i unrhyw ddynes arall.
“’Dwi’n cymeradwyo ei dewrder am riportio’r troseddau erchyll yma, ac am ei dewrder parhaus drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses llys.
“’Da ni’n cymryd bob hysbysiad o drais yn erbyn merched o ddifri, ac yn annog unrhyw un sydd wedi cael profiad o’r fath ymddygiad i gysylltu efo ni. Mi wnawn ni wrando, ac mi wnawn ni eich cynorthwyo chi.
“’Da ni’n canolbwyntio ar warchod merched rhag pobl fel Tabner.”